Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorfu

gorfu

Aeth fy chwaer i fyw i Fethesda ar ôl priodi, a'r Nadolig cyntaf i ni fod hebddi cafodd Mam y ffliw neu rywbeth, bu'n wael iawn, a gorfu iddi aros yn ei gwely.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Bu rhaid i awdur Pedeir Keinc y Mabinogi weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun pan geisiodd ef egluro fod darganfod baban yng Ngwent-is-coed a'i fagu yno yn digwydd tra oedd Rhiannon yn dioddef ei phenyd yn Arberth, a gorfu arno geisio ffordd i ddwyn y ddau hanesyn yn un.

(a hithau'n fis Mehefin!) Gorfu iddynt newid pob cerpyn o ddillad yma.

Gorfu i Manon edrych yn dosturiol arno, a hynny er gwaetha'r ffraeo a chodi cnecs.

Ni ddaeth, a gorfu i ni neidio i drên oedd eisoes yn llwythog, a mynd i San Servito, tua chwe milltir i'r gogledd o'r dref.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gŵr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Cafodd y ddau bob cyfle i dderbyn y ddeiseb ar faes y 'Steddfod ac yn y diwedd gorfu i ni fynd â'r neges at Rod yn ei swyddfa.

Darganfu'r ffordd i'r ystafell fwyta lle y gorfu iddo rannu bwrdd gyda phar ieuanc nad oedd ganddynt fymryn o ddiddordeb ynddo, ond a barodd iddo ddyheu am gwmni merch brydferth.

Gorfu i bawb ohonom lenwi ffurflen bwysig ymlaen llaw a rhoddi pob math o fanylion amdanom ein hunain.

Cadwodd Fred yr oed ond gorfu iddo ddisgwyl am awr yn ei fen y tu allan gan fod yr allwedd gyda Mary.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gwr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Ond erbyn cyrraedd y fan dywededig - "No chwe - chiw chol sei dawn chofyr dder!" - Er i mi edrych yn ofnus a chrefu "Por favor, senor" Gorfu i'r dosbarth fynd i lawr y llethr o rew - son am grynu, dychryn, chwysu'n oer a phoeth ac arswydo.

Ni chafodd hwy oll a gorfu iddo golli'r cymhorthdal ar nifer ohonynt.

Gwelodd y Capten ei gyfle a meddiannodd y soffa iddo'i hun yn wely tra gorfu i'r Major a'r Cyrnol gysgu ar welyau plyg, nid mor gyfforddus o'r hanner.

Gorfu arnaf roddi barau heyrn ar ffenestri'r tŷ i'w rhwystro rhag gollwng y gwyr i mewn.