Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorgi

gorgi

ac fel y gwelsoch lawer gwaith gorgi, neu geiliog-gwydd, neu gythraul, a ymaflai yn eich sawdl, y mynyd y troech eich cefn, felly y rhai hyn...

Erbyn heddiw tueddwn i feddwl am gŵn fel anifeiliaid anwes ond ar ffermydd a thyddynnod Sir Benfro a Sir Aberteifi y magwyd y ddau fath o gorgi yn arbennig ar gyfer gyrru gwartheg ac er mwyn hela y crewyd cŵn megis Daeargi Sealyham, y Daeargi Cymreig (a fu mor llwyddiannus yn Sioe Cruft eleni) a'r Tarfgi Cymreig (Welsh Springer Spaniel).