Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorgyffwrdd

gorgyffwrdd

Gan fod offeiriad Aberdâr wedi ymosod yn benodol ar Ymneilltuaeth, gan honni mai hynny, ynghyd â chryfder yr iaith Gymraeg oedd i gyfrif bod bywyd y dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd diwydiannol yn isel ac anfoesol, yr oedd y dadleuon yn gorgyffwrdd â'i gilydd, a Ieuan Gwynedd yn ymddangos fel amddiffynnydd 'gwir Gymreictod'.

Rhagdybiwyd o'r dechrau y byddai diddordebau yr Eisteddfod a Chymdeithas Ddrama Cymru'n gorgyffwrdd, ond ni sylweddolwyd ar y pryd mor agos at ei gilydd oedd amcanion y ddau gorff.

O gynnwys Eric, wyr bach Jane Gruffydd sy'n dod ati hi fyw, mae pum cenhedlaeth yn dod i mewn i'r hanes, a champ y nofel yw'r modd y mae'n dangos bywydau'r rhain yn gorgyffwrdd ac yn effeithio ar ai gilydd (thema amlwg yn ei straeon diweddarach, fel 'Gwacter' yn y gyfrol Gobaith).

Er mwyn cyrchu at ein nodau gorgyffwrdd yn y modd mwyaf effeithiol posib, ymroddwn i weithio'n egniol tuag at greu rhwydwaith effeithiol o ddarparwyr, er lles y defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyn.

pe bai modd sicrhau fod elfennau cyffredin yn y gwahanol haenau i asesu'r lefelau gorgyffwrdd byddai hyn yn fanteisiol ; er enghraifft lle bo hynny'n briodol gallai cwestiynau uchaf un haen fod yn gwestiynau isaf yr haen nesaf.

Dyna'r eglurhad dros fodolaeth cyfres o anhwylderau sy'n gorgyffwrdd a'i gilydd, anhwylderau yr wyf fi yn fy ffordd heipocondriag fy hun yn teimlo 'mod i'n dioddef ohonynt.