Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorllewinol

gorllewinol

Gallwch weld olion y lagwnau ar ochr ddwyreiniol a gorllewinol Bae Langland.

Gwrthgiliodd gofalwr arwyddion o'i safle yn y blwch gorllewinol, er llawenydd i'r dyrfa, ond rhaid oedd defnyddio dulliau cryfach i gael gwared ar y gofalwr o brif flwch yr orsaf.

Yn ogystal â dilyn Terry Waite wrth iddo geisio ennill rhyddid i rai o'r gwystlon Gorllewinol, roedden ni am geisio dangos sut oedd y Nadolig yn Beirut.

Mae gan Gymru hinsawdd arforol gyda gwyntoedd gorllewinol yn dod â glaw ym mhob mis o'r flwyddyn, ac yn aml meddylir am Gymru fel gwlad wlyb.

Pan ddychwelodd, roedd wedi cael profiad o fywyd gorllewinol ac roedd ei syniadau'n llawer rhy ddieithr i hen ddull ei dad o lywodraethu.

Am resymau digon amlwg datblygai y syniadau hyn gan mwyaf yng ngwladwriaethau canol Ewrop a ddymunai gystadlu'n well â'u cymdogion gorllewinol.

Iddo ef, doedd unman tebyg y tu allan i ucheldir gorllewinol Mecsico.

Yno y buom ein tri yn aros am yn agos i awr, oherwydd bod rhibidires hir o bobl o'n blaenau, a phob un ohonynt a llond col (a throli) o ddanteithion gorllewinol - neu'n hytrach ddanteithion dwyreiniol, gan mai dim ond enwau Hitachi, Sony a Toshiba oedd i'w gweld ar bob llaw.

Nid oedd modd ei chadw rhag cyfrannu i ymdrech y Cynghreiriaid Gorllewinol.

Mae rhan helaeth o'r adar fydd yn y wlad yma yn anelu am arfordir gorllewinol Ffrainc, ac yna yn teithio i lawr trwy Sbaen ac i ogledd Affrica cyn wynebu'r daith ofnadwy ar draws diffeithwch y Sahara.

"Mae'n holl bwysig bod swyddfa Gogledd-Gorllewinol yr Awdurdod yn aros yn agored i gadw mewn cyswllt a diwydiant, AS a'r awdurdodau lleol er mwyn adfywio economi'r ardal," meddai Mr Jones yr wythnos hon.

Roedd rhannau gorllewinol y wlad, yn enwedig y tir a ffiniai â Sudan, yn is o lawer ac yn fwy ffrwythlon.

Trwy roi'r lluniau o ddioddefaint ac anobaith yn eu cyd-destun, llwyddodd y wasg i annog ymdeimlad o euogrwydd yn y byd gorllewinol a thrwy hynny gyfleu cyfrifoldeb y byd hwnnw tuag at yr wynebau trist oedd yn cyfarch y cynulleidfaoedd teledu rhyngwladol.

Dechreuodd o leiaf rhai o'n harweinyddion amau ein syniadau rheibus gorllewinol - prin iawn yw'r rhai sy'n ymfalchi%o bod ein cyndadau (a Chymry yn eu plith), er enghraifft, wedi cwbwl ddileu llwythau a gwareiddiadau eraill yn Tasmania a De a Gogledd America.