Ymosodai yn filain ar wegil y greadures, rhwygo'r cnawd, ei lladd yn farw gorn, ac yna yfed peth o'r gwaed ffres, ychydig o ddiferion, cyn ffoi.
Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.
Fel anghenfil mawr, gyda'i oleuni'n fflachio a'i gorn yn canu rhuodd y lori drwy'r strydoedd.
Mae 'na un yn arbennig yn mynnu cael fy sylw i; yn canu'i gorn a chwifio'i freichiau fel octopys yn arwain côr cymysg.
Mae gwaith fel hyn dipyn yn newydd i chi, ond yr ydw i wedi hen arfer â fo.' Wedi dweud hyn, symudodd Ernest i siarad â rhyw sbrigyn o fonheddwr, a dywedodd yn rhy isel i Harri allu ei glywed: `Mi wna i i'r d l ene dorri corn ei wddw neu gorn gwddw ei geffyl cyn canol dydd.' Canodd y corn, ac ymaith â'r cŵn, a'r marchogion yn eu dilyn.
Canodd rywun gorn y modur deirgwaith ac yna clywyd gwaedd mewn Saesneg croyw.
Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.
Mae'r hin wedi oeri'n arw a'r ddaear wedi rhewi'n gorn.
Pan es i atyn nhw yn y bora, roedd un wedi rhewi'n gorn yn lle odd o'n sefyll.
Go brin y byddwn i wedi dychmygu flwyddyn yn ôl wrth i Olygydd Y Tafod alw fy ngholofn i yn 'Gair o'r Gofod' ar gorn fy llys enw, Rocet, y byddai'r gair o'r gofod yn datblygu i fod yn Air o'r Seibr Ofod.
Na amheued neb fod sifalri yn farw gorn.
Dringodd Huw i'w fync yn gyflym a thynnu'r dillad i fyny at ei gorn gwddw.
Ar gorn ei enw da fel gof y cafodd Hadad gyfnodau byr o brofiadau rhywiol, gyda merched o'r tu allan i'r llwyth, wrth gwrs.
Ac y mae hynny'n arbennig o wir os ceisir awgrymu pan wersi y gallwn eu dysgu ar gorn yr hanes.
Enghreiffliau clasurol o'r adar sydd yn dod yma ydi'r wydd ddu o Sibiria, yr wydd wyrain o'r Ynys Werdd, elyrch o Ynys yr Iâ a Gogledd Llychlyn, a miloedd o rydyddion o'r gwahanol rannau gogleddol, fydd wedi rhewi'n gorn yn ystod y Gaeaf.