Yn wyneb y fath ansicrwydd ynghylch y dyfodol nid yw'n syndod fod rhai o'r eglwysi hynny sy wedi goroesi yn Rwsia yn dechrau denu addolwyr unwaith yn rhagor, yn ogystal ag ymwelwyr, er na ŵyr trwch y bobl fawr ddim am y ffydd Gristnogol.
Roedd hi wedi goroesi pob helynt a glynai'r genedl wrthi o hyd am mai hi oedd 'iaith ein llên', 'iaith ein cartref' ac 'iaith ein crefydd'.
Roedd ef wedi goroesi `Ogof Angau', ac wedi dod ohoni gydag esboniad paham nad oedd unrhyw fforiwr arall wedi dianc ohoni yn fyw!
Rhaid i'r Cynulliad bwyso ar fyrder am Ddeddf Iaith 2000 i sicrhau y bydd y Gymraeg yn goroesi am fil o flynyddoedd eto.
Mae'r planhigion blynyddol fel llau'r perthi a'r ffrom- lys a'r pys per yn gwasgaru'r had, yn gwywo a marw, a'r hadyn wedyn goroesi'r gaeaf i egino yn y gwanwyn.
Ar ben hynny, mae yna dystiolaeth fod bacteria fel salmonella yn goroesi yn y dwr ac yn cael ei drosgwlyddo o blatiau i gyllill ac yn y blaen.
yn fyrrach, na'i gilydd - sy'n cyfateb i drefn natur, lle ceir rhai creaduriaid sy'n goroesi'n well na'i gilydd.
Bydd siawns fod rhai o'r cyfuniadau newydd yma'n cynhyrchu creadur sy'n medru goroesi'n well nag eraill, wrth ehangu ar y wybodaeth enetig a etifeddwyd - gwybodaeth oedd yn llwyddiannus wrth fedru atgenhedlu yn y lle cyntaf.
ond mae'r cythreuliaid yn falch bod ambell arfer hynafol fel meddwi a charu-yn-y-gwely wedi goroesi, yn nannedd Ymneilltuaeth.
Prin iawn yw rhaglenni a chyfresi o'r fath heddiw heblaw, wrth gwrs, am sawl opera sebon, ac er gwaethaf ymdrechion yr Awstraliaid, Phil Redmond yn Lerpwl a'r BBC yn Walford, Sbaen a de Cymru, mae un sebon wedi goroesi o'r dyddiau cynnar byw, du a gwyn.
Eglurodd fod i Feirdd Ynys Prydain gynt bedair Cadair - Gwynedd, Powys a Dyfed a Morgannwg - ac er mwyn pwysleisio rhagoriaeth hanesyddol Morgannwg a'i statws unigryw ef ei hunan honnai'n gyson mai Cadair Farddol Morgannwg yn unig oedd wedi goroesi i'w gyfnod ef.
Pan gysegrwyd Thomas Bec yn esgob ar esgobaeth Tyddewi, canfu fod llawer o gymdeithasau eglwysig a oedd wedi goroesi'r canrifoedd yn bodoli yn ei esgobaeth.
Un peth trawiadol yw fod amryw o'r ymarferion darllen mwyaf elfennol wedi goroesi hyd yr ugeinfed ganrif a dyma oedd ein darllen Cymraeg cyntaf yn hanes llawer ohonom.