Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gors

gors

Ar Gors Ddyga newidiwyd llwybr yr afon yn sylweddol yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, ac o ganlyniad mae ei thraeniad yn gwbl annhebyg i'r hyn ydoedd yn wreiddiol a naturiol.

Yn y gyfrol hon ceir atgofion Eifion Roberts am Gefn Brith a'r cyffiniau, bro beirdd megis Edward Morris, Perthillwydion, a Jac Glan-y-gors, Thomas Jones, Bryn Du (Cerrigelltgwm Isa, Ysbyty Ifan, wedi hynny), a Tomi Jones, Cernioge Bach ac Aelwyd Brys.

Ar ôl oriau lawer o deithio ar hyd llwybrau troellog, rydych yn cyrraedd yr ynys fwyaf a welaist yn y gors hyd yn hyn.

O ganlyniad i'r newidiadau mawr a ddilynodd gau'r Gors yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, crewyd rhwydwaith gymhleth o sianelau geometrig.

Dylid nodi i'r tir gael ei roddi yn rhad gan John Davies, Glan-y-gors, ac i'r adeilad gael ei godi ar safle wahanol i'r addoldy blaenorol.

Darganfuwyd gweddillion yn Llansantffraid a'r Gors-goch sy'n awgrymu bod unwaith Wyddelod, ychydig ohonynt o leiaf, yn byw rhwng Dyfi a Theifi.

Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.

Lle digon diffaith oedd Nant y Gors a'r sôn oedd mai crafu bywoliaeth a wnâi Ham, ond ni welais i erioed neb hapusach.

Pan ddoi i Glan Gors chwilia am Athel, hen gyfaill i mi sy'n hanesydd lleol a chanddo gryn ddiddordeb yn y Carael.

Yr oedd hi'n hawdd i hofrennydd fynd ar goll yn y niwl ar y gors, ac yr oedd hynny'n bwysig.

purpurella yn y gors.

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

Roedd o ar goll heb ei helm a'i lyfryn, yn y gors, yng nghanol nunlle heb fap.

Eto gellid gorbwysleisio dyled y llenor o Gardi i'r Americanwr, y mae'n debyg, am fod ysbrydion Meini Gwagedd yn codi'n hollol naturiol o darth y Gors fel yr oedd Kitchener yn ei chofio.

Gwêl y genhedlaeth iau lai o'r gwirionedd, am eu bod mor benderfynol i roi'r bai ar ei gilydd, ar amgylchiadau, ac ar y Gors.

Yna rwyt yn troi pen dy geffyl i ddilyn yr afon, ac ar ôl milltir neu ddwy gweli'r rhyd a'r ffordd sy'n arwain o'r afon i Glan Gors.

Gwelodd Hyde yntau y gors y syrthiodd y gwleidyddwyr iddi, a byddent ynddi am chwarter canrif arall.

Dau grŵp sydd: Gŵr Glangors-fach a'i ddwy ferch, etifeddion y bobl a blannodd y gors a gwneud tyddyn; a dau frawd, sydd wedi priodi dwy chwaer, a chymryd y tyddyn ar les ar farwolaeth yr hen ŵr.

Does ond eisiau edrych ar hysbysebion yn siopau Caerdydd i weld pa mor hawdd yw mynd i'r gors drwy lenwi'ch pocedi gyda chardiau credyd y naill siop ar ôl y llall.

Yn ei ragymadrodd i Llwybrau Pridd y mae'r bardd yn nodi rhyw dinc hen-ffasiwn yn ei ganu, fel petai heb ymadael yn llwyr a'r hen draddodiad: 'Un droed yn y gors, y llall yn y concrid', meddai.

Beudy'r Gors.' Sylweddolodd 'rhen ferch faint ei chamgymeriad a cheisiodd adfeddiannu'r tir a gollwyd drwy roi ymosodiad ar William Huws, druan.

Felly, hefyd, y byddai Kate fach Cae'r Gors yn mwynhau teimlad ei bwa blewog am ei gwddw yn y gaeaf.

Fesul tipyn gorfodir i'r tenantiaid ddysgu'r wers greulon hon fel y suddant yn ddyfnach i gors ddiwaelod tlodi.

Yn y gyfrol Atgofwn, mae Kate Roberts yn cyfeirio at y tŷ llaeth helaeth y tu ôl i'r gegin yng Nghae'r Gors, a'i resiad o botiau llaeth cadw gyda llechi crynion ar eu hwynebau.

Nid enwyd y rhan fwyaf ohonynt, ond fe enwyd ambell un bwysig, megis Yr Afon Newydd sy'n traenio'r dwr oddi ar wyneb y gors yng nghyffiniau Llangaffo.

Doedd o'n gwybod dim am y gors, ond mae pawb yn yr ardaloedd o gwmpas yn gwybod amdani." Y noson honno, yr oeddynt braidd yn siomedig - i feddwl bod y chwilio drosodd cyn gynted ag y daethant hwy i'r bwthyn ar eu gwyliau.

Dyma'r ffordd i bentref Glan Gors.

''Dyn nhw wedi symud Pwllheli ne' rwbath?' ''Da ni wedi talu am gal mynd i weld - The First of the Few.' 'Do'n tad.' 'Nid i fynd â hwch Beudy'r Gors at bae.' 'Ifan Paraffîn dreifar sybmarîn.' 'Petha' ifanc 'ma wedi mynd yn gegog, Ifan Ifans,' sylwodd William Huws a ddioddefasai'r un o math enllib yn flaenorol.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Mae'n tarddu mewn ardal lle mae'r traenio'n gymhleth ac yn amhendant i'r de-orllewin o Bentraeth ac yn ymuno â'r brif afon ar Gors Ddyga ger Tregarnedd.

Rwyt yn adrodd yr hanes i gyd wrth y cwmni o chwech o benaethiaid Tegannedd, o'r diwrnod y gadewaist Trefaiddyn hyd yr amser y daethost i Gors Mallerch.

Mae nifer o fawnogydd bychain yn gwpannau llaith rhwng y creigiau ac yn hafan i chwys yr haul Drosera rotundifolia, tafod y gors - Pinguicula vulgaris, a phlu'r gweunydd - Eriophorum angustifolium.

Mae cais cynllunio Cyngor Sir Clwyd i godi ffordd osgoi i'r Fflint, ar draws y gors yn aber yr afon Dyfrdwy wedi ei alw i mewn am benderfyniad personol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Roedd fel sŵn anifail yn cerdded trwy gors.

Symbol yw'r Gors o'r elfen ym mhrofiad dyn na ellir ei hosgoi, a'r gosb a ddaw yn sgil anonestrwydd.

ia,' meddai Caradog, 'taswn i'n digwydd 'i weld o mi fuaswn innau'n diolch iddo fo hefyd.' Cymeriad arall y bu+m lawer yn ei gwmni oedd Hamilton, Nant y Gors.

Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.

Ifan: O'r borfa ar y cloddiau a'r twmpathau ar y gors fe gliriwn y rhent ag ŵyn-tac ac ebolion, pob llwdn fel ebol, a phob poni fel march erbyn y Gwanwyn .

O'r un ucheldir y deuai Jac Glan y Gors, Taliesin a Llew Hiraethog, Tom Owen Hafod Elwy a llawer un aral y gellid ei enwi heb fynd nemor pellach na deuddeng milltir o gartref William Jones yn Hafod Esgob, Nebo.

"Dyna'r unig esboniad." "Sut oeddach chi'n gwybod am y gors?" holodd Huw.

Dyma un ohonynt yn dweud yn ddistaw wrth y llall, ond yn ddigon uchel i'r hen Daid glywed: "Yli sgwarnog yn croesi'r gors".

Beirniadodd ef ei thuedd i ddibynnu ar hen noddfa stori%wyr fel Richard Hughes Williams, sef marwolaeth, yn y stori 'Yr Athronydd' (O Gors y Bryniau) ac meddai am y stori 'Newid Byd', o'r un gyfrol: Heddiw, ni sgrifennai'r pum gair olaf.

Sal: Pysgod Nant-las i swper, brithyllod a samwn, llyswennod wrth y llath o rabanau'r gors .

Ym mywyd yr hen ŵr hwn mae'r traddodiadau y seiliwyd diwylliant ac economeg y gors arnynt wedi'u gwyrdroi.

Agorwyd dau draen sylweddol i draenio wyneb y gors, yn gyfochr â'r brif afon ond y tu allan i'w hargloddiau Rhoddwyd yr enw Traen Menai a Thraen Malltraeth arnynt; ond enw pobl yr ardal arnynt y rhan fynychaf yw Yr Afon Fain.

Heibio cae pella a'r gors bach, yna i ben draw gors fawr,' a disgrifio'r daith yn ôl wedyn.

Gallent ddadlau nad oeddent yn gallu meistroli amodau creulon y gors.

Talant yn ddrud am eu delfrydiaeth a bair iddynt anwybyddu sail economaidd amaethyddiaeth y Gors.

Rhwng y cwt mochyn a'r gors mae boncyff un o'r coed llwyfen gafodd eu cwympo, ac y mae brigau bach newydd iraidd wedi tyfu o'i ochrau yn deilio bob blwyddyn.

"Mae'n rhaid ei fod o wedi suddo yn y gors," meddai'r plismon clên wrthynt.