Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorsaf

gorsaf

Ni wn a oedd gorsaf-feistr yma yr adeg hon, anaml y teithiwn ar hyd y rheilffordd LMS, dim ond rhyw unwaith yn y flwyddyn gyda thrip yr Ysgol Sul i'r Rhyl.

"Mae hyn yn newyddion da dros ben ac yr wyf yn falch iawn y bydd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle yn y dyfodol agos," meddai Mr Hughes.

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

Arhosais mewn gorsaf betrol.

Yna os ewch chi o gwmpas trwyn y Mwmbwls i lawr i fae Bracelet gallwch gasglu esiamplau o ffosil gwymon môr sy'n edrych yn debyg i ddarnau deg ceiniog crwn ar y creigiau ger gorsaf gwyliwr y glannau.

Bydd datgomisiynu Gorsaf Ynni Niwcliar Trawsfynydd, oedd yn cyflogi nifer sylweddol ac yn nodedig am gyflogau uwch na'r cyfartaledd, yn cael effaith andwyol ar y ddau ffigwr yma.

Darlledu yn dod i Gymru ar ôl agor Gorsaf 5WA yng Nghaerdydd.

Symudwyd hi i Lanbedr Pont Steffan yn y ganrif ddiwethaf ar ol agor gorsaf reilffordd.

Agor gorsaf radio annibynnol gyntaf Cymru, Sain Abertawe.

"Yr oedd yr hen orsaf wedi disgyn o dan y safon ers llawer dydd ac os oedd gorsaf newydd am gael ei hadelladu, yna'r amser gorau i wneud hynny oedd tra bod y gwaith ar yr ysbyty ei hun yn cymeryd lle." "Os buasai'r orsaf yn cael ei hadeiladu ar ôl i'r ysbyty newydd gael ei hagor, buasai ail-wneud cynlluniau, rhoi y gwaith allan i dendar a'r anhwylusder trafnidiaeth ar y safle yn golygu y buasai wedi costio mwy na'r angen.

Wrth nesu at Lyn Llydaw fe gerddwch yn gyfochrog â'r bibell ddþr newydd sbon danlli sy'n nadreddu tua gorsaf drydan Cwm Dyli.

Agor gorsaf niwcliar Trawsfynydd.

Gorsaf tref cefn gwlad oedd hi ac ni welais ynnau yno o gwbwl, er mae'n siŵr fod yna ystafell yno a oedd fel arsenal.

Agor gorsaf ddarlledu 5SX yn Abertawe.

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol - (i) Maes parcio gorsaf Porthmadog Datganodd swyddog o'r Rheilffyrdd Rhanbarthol bod maes parcio yr orsaf yn rhy fawr ar gyfer y defnydd a wneid ohono fel maes parcio ar gyfer pobl a ddefnyddiai'r tren.

Ymosodiadau o'r awyr ar Gaerdydd, gorsaf y Llu Awyr ym Mhenrhos, Gwynedd, Doc Penfro a Llandarsi.

Agor gorsaf Radio Ceredigion.

Wrth ymadael â'r orsaf, wedi dychwelyd adref o'r coleg ar gychwyn Cysgod y Cryman, mae'n taro'i docyn yn llaw'r gorsaf-feistr fel un sy'n 'gynefin â gweision'.

Agor gorsaf niwcliar Wylfa ar Ynys Môn.

Yr adeg honno yr oedd gorsaf nwyddau dros y ffordd i'r carchar - ac mae'n anodd dweud ym mha un o'r ddau le yr oedd y giwed mwyaf.

Ymhob gorsaf mae pobl, pobl, pobl ym mhobman.

Mae gŵr o Lanuwchllyn, a gollodd ei wraig drwy gancr y fron, yn argyhoeddedig fod agosrwydd gorsaf Trawsfynydd, yn ogystal a thrychineb Chernobyl wedi chwarae rhan.

Darllediad cyntaf Ceefax ar y BBC. Agor gorsaf radio annibynnol gyntaf Cymru, Sain Abertawe.

Ond heno, fel Neuadd enwog y Dre', Gorsaf yr Heddlu ar geg New Street ac ambell un o adeilada' nodedig er'ill y Port, 'ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy.' Er y gellir dod o hyd i rai o'i weddillion yn nhafarn y Ship hefyd!

(iii)Tynnu sylw'r Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd at gyflwr peryglus wyneb y maes parcio ger gorsaf Porthmadog.

Rhyw fagu llwynog oedd hynny - datgelu gwybodaeth i arall, ond byddai hogiau gorsaf Caernarfon yn barod iawn i'm dysgu, a dysgais lawer oddi wrthynt.

Agor gorsaf radio annibynnol CBC yng Nghaerdydd.