Ond meddiannwyd eraill hefyd, gan ofn a phryder ynglŷn â'r posibilrwydd nad oedd dim yn y pen draw a oedd yn werth marw er ei fwyn, a phan ddeuai'r Rhyfel i ben, oni ddeuent o hyd i ystyr bywyd o'r newydd, syrthient yn ôl i gyflwr o ddifaterwch neu anobaith, wedi eu gorthrymu gan ddiflastod ac oferedd bywyd.
Cyhoeddai Cradoc fod gorthrymu'r tlodion yn un o'r pethau oedd yn cyffroi llid Duw yn union fel yr oedd Morgan Llwyd yn cyhoeddi barn ar eu gorthrymwyr, "Gwae chwi yr vchelwyr drwg ei siamplau, yn llusco y tlodion ar eich ôl i ddestryw.