Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goruchafiaeth

goruchafiaeth

Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.

Roedd ganddo ef gydwybod gymdeithasol effro iawn, wrth gwrs, ond yr esiampl a gynigiai ei stori i'r genhedlaeth yn union cyn f'un i oedd gwerth hunan-wellhad: goruchafiaeth hunan-ddisgyblaeth, diwydrwydd, a byw'n dda, gwerthoedd oedd wedi eu hangori mewn patrwm cymdeithasol di-sigl.

Ceir trefn goruchafiaeth pendant ymhlith adar y llwyni.

Mae hanes i'r awdur yn rhywbeth hanfodol ddramatig am fod pob trobwynt mor llawn o bosibiliadau, a'i bod yn rhaid brwydro a'r deg ewin i gael goruchafiaeth a meddiannu llwybr y traddodiad.

Mae'n edrych ar y gogledd fel rhanbarth twyllodrus, barbaraidd, ac yn y Vita Cadoci adroddir hanes goruchafiaeth Cadog ar Faelgwn a'i fab, Rhun, a ddaethai i Went i ysbeilio ac i ddiffeithio'r wlad.

Daeth goruchafiaeth yr iaith Ffrangeg i ben yn Lloegr, a daeth tafodiaith canolbarth Dwyreiniol Lloegr yn sylfaen Saesneg fodern.

Nid oedd dewis ganddynt ond cydnabod goruchafiaeth y picedwyr, gwarchod y ddau drên ynghyd â theithwyr y Cork Express a waharddwyd rhag mynd ymhellach, ac ymuno yn y canu a'r difyrru a barhaodd ar hyd y nos.