Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goruwchnaturiol

goruwchnaturiol

Yr oedd canran uchel ohonynt (saith deg y cant) y tu allan i'r eglwysi, ac i'r mwyafrif llethol roedd y gair 'Duw' yn gwbl ddiystyr, a'r goruwchnaturiol yn ddeimensiwn cwbl afreal.

O fedru cymuno ag Ynys Afallon, yr ysgogiad ysbrydol goruwchnaturiol hwn sydd tu hwnt i ddelwedd, y geill pob Bedwyr trist a distaw yn hyn o fyd wynebu'r drin.

O wisgo coron o frigau ysgawen noswyl Calan Mai gellir gweld bodau goruwchnaturiol.

Ac eto, er gwaethaf hyn (neu, efallai, oherwydd hyn) y mae'r ffin i rai pobl rhwng y real a'r afreal, y naturiol a'r goruwchnaturiol, mor anelwig ag erioed.

Y mae awgrym yn Genesis o gyfathrach rhwng merched dynion a bodau goruwchnaturiol a elwid yn ddemoniaid.

Ac eto, o gofio ymateb trigolion un pentref yn ddiweddar, mae'n ymddangos fod rhai pobl o hyd yn rhyw led-gysylltu'r ysgub â galluoedd goruwchnaturiol.

Un o ser mwyaf disglair byd y teledu ar hyn o bryd yw'r gŵr dwys, pryd tywyll sy'n honni ei fod yn meddu ar allu goruwchnaturiol i ddefnyddio'r cyfrwng er gwella afiechydon ac anhwylderau o bob math.

Er gwaethaf gorthrwm secwlariaeth a'r ysbryd a oedd yn cau allan bopeth yn ymwneud â'r goruwchnaturiol, cydnabu J.

Yn ail, trwy ofyn i'r creaduriaid goruwchnaturiol hynny, yr estate agents, beth sydd ganddynt ar fynd.

Gynt roedd awydd plant ac oedolion am gael profi blas byd natur, hud a lledrith a'r goruwchnaturiol yn cael ei ddiwallu helaeth drwy wrando ar chwedl; gwerin, megis chwedlau arwrol a chwedlau'r Tylwyth Teg.

Er bod llai yn credu heddiw yn y goruwchnaturiol ac mewn hud a lledrith nid oes brinder pobl sydd ar adegau, o leiaf, yn hygoelus, os nad ofergoelus.

Canys nid trwy gyfres o ymweliadau goruwchnaturiol y datblygodd y byd i'r hyn ydyw heddiw, ond trwy broses naturiol hir y mae'r bydysawd yn rhan ohono.