Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorweddai

gorweddai

Gorweddai'r prif reswm am y camfarnu, er hynny, ychydig yn ddyfnach :

Gorweddai yn ei gwely bach pren mewn twll yng nghlawdd y cae haidd yn troi a throsi, yn ysu am weld golau dydd.

Gorweddai Robat ar wastad ei gefn yn ei wely a'i ddwy law dros ei fol.

Gorweddai ei farch ardderchog yn gelain farw, ac yr oedd y pris mawr a roesai amdano wedi mynd gyda'r gwynt.

Cododd o'i gwely ac edrychodd ar y ddesg wrth ymyl y ffenestr lle gorweddai ei thraethawd a'r llyfrau o'r llyfrgell.

Gorweddai dau bisin hanner can ceiniog yn glyd yn y gwaelod, a digon o le i rai eraill fel y deuent.

Gorweddai'r hen ŵr fel corff marw ar y gwely.

Gorweddai Rex yn glos wrth ei feistr ar y gwely.

Gorweddai ei ben ar ei ysgwydd chwith, a gwaeddai ei dryblith o wallt claerwyn am grib.

Gorweddai'r ymenyn yn bwysi printiedig yn y giler, a diferai'r maidd o'r cawslestr tan y wring.

Y mae dadansoddiad o nodau uchder ar fapiau AO, fel yr enwau Glan-yr-afon a Rhyd Lydan, yn tystio ymhellach i'r ffaith mai i'r gorllewin o'r llwybr presennol y gorweddai llwybr gwreiddiol Afon Cefni o ad-drefnu'r rhwydwaith traenio crewyd sianelau dwr hollol newydd, sianelau y rhoddwyd enwau penodol iddynt.

Ciledrychodd Ffredi ar ei ysgwydd lle gorweddai pen ei ffrind a'i lygaid i gyd ar gau.

Gorweddai yno'n syfrdan, ei grys am 'i ganol a'i din a'i geillie briw yn destun gwawd hiliol i ambell wag a eisteddai gerllaw yn y coridor.

Gorweddai'r ast a'i chenau mewn basged wrth y tân.

Gorffwysai Rageur a Royal wrth ei draed Gorweddai Rex yn crio'n ddigalon wrth y drws mewn hiraeth am Alphonse.