Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorwel

gorwel

Oes 'na ddefnydd felly i'r ffurfiau carbon yma, yn enwedig pan fod 'na ffynhonnell weddol rad ohonynt ar y gorwel?

Ymddangosodd milwr arfog dros y gorwel a rhedeg i lawr y llechwedd.

Ar y gorwel, y tu draw i amlinell dywyll y bryniau, gwelai olau cyntaf y wawr yn torri.

Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar y gorwel, yn ei safle newydd ym mis Mawrth.

O agor hwn gwelwn fod anrhegion prin ynddo i'n cario drwy'r heth a'r hirlwm nes bydd Mawrth arall ar y gorwel ...

Wrth gwrs, ni welai ddim - dim ond gorwel llwyd, ansicr, ac ymchwydd ewynnog y tonnau cecrus.

Mae 'Gyda'r Nos Ar O^l Glaw' yn enghraifft ardderchog: yr awyr a'r tir, heb bobl nac adeilad yn y golwg, yn llawn symud ac awyrgylch; yr haul yn torri trwy dduwch cwmwl sydd fel talp o fynydd ar y gorwel.

Roedd o fel cwmwl du yn hofran yn y pellter, nid yn union yn y ffurfafen uwch ei ben ond ar y gorwel.

Roedd cymylau duon dyledion ar y gorwel a chryn dipyn o'r sglein wedi mynd oddi ar y geiniog felen, safon arian N'Og ers teyrnasiad Braianllwyn Dew.

Ond o'r diwedd, fel hwylbren gobaith o dan y gorwel, fe ddaeth clamp o laethwr ffyddiog heibio.

O'r Western Mail ar Chwefror y 29ain -- mae'r Blaid Geidwadol mor desprêt am bres gyda brwydr etholiad cyffredinol ar y gorwel fel eu bod wedi hed-hyntio Trysorydd y Gymdeithas, Lyndon Jones, i gynnig help...

'Roedd Rick yn rhy hirben yn y pen draw, ond diolch fod honno wedi cilio dros y gorwel, neu dyn a þyrfaint ei gallu i'w hudo i ddinistr.

Edrychais ar y gorwel a gweld cymylau du enfawr yn prysur ddod tuag atom ac, o fewn munudau, roedden nhw'n arllwys glaw trofannol ar ein pennau.

Pan oedd Samaria dan warchae, a gwersyll y Syriaid tu hwnt i'r gorwel yn rhywle, yn tagu'r ddinas gan newyn, fe ddaeth pedwar gwahanglwyf at y pyrth.

Fe roddai hi'r byd i gyd yn grwn am gael neidio i un ohonynt a mynd ar wib am y gorwel yn lle cael ei hangori fel hyn ddydd ar ôl dydd wrth wely ei nain.

Roedd y cymylau wedi cael eu gwthio i'r gorwel fel plancedi i droed y gwely.

Nid oedd bywyd hyd yn oed yn yr harbwr heno, dim ond hen lwydni tesog yn erlid pob argoelo lesni ac yn corlannu cysgodion o ddu%wch ar y gorwel., Gobeithio'r annwyl nad darogan ystorm a wnaent.

Gerllaw, mae pentyrrau o gerrig, a'r rheini'n ymestyn i'r gorwel.

Dringodd eto i ben y gadair a gwelai oddi tano feysydd eang yn ymestyn i'r gorwel.

Yn awr, mae yna gwestiynau eraill ar y gorwel.