Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorwelion

gorwelion

Rhoddai ystyriaethau o'r fath ysgogiad i'r teulu hwn ac eraill cyffelyb iddo i ledu eu gorwelion cymdeithasol ac ennill cryn awdurdod iddynt eu hunain yng ngogledd Cymru.

Ynddynt y canfu ef a'i gymheiriaid y cyfle i ehangu gorwelion eu hawdurdod ac i sicrhau swyddi brasach ar lefel leol, er enghraifft, Dirprwy-Raglawiaeth, Aelodaeth Seneddol ac Uchel Siryfiaeth.

Ar sail y cyfoeth sy'n deillio o ddwy iaith hynafol, rhydd addysg Gymraeg gyfle iddynt ehangu eu gorwelion a dyfnhau eu profiadau.

rhaid i ni annog menter, ehangu gorwelion pobl a gwell a safonau rheoli yn gyffredinol.

Is-bwyllgor Celf a Chrefft: Adroddodd Averill Thomas fod y pwyllgor wedi mynd i'r afael a chystadleuaeth Llanelwedd, y thema yw 'Ehangu Gorwelion - Cymru ac Ewrop'.

Y bennod nesaf, 'Lledu Gorwelion Ysgolheictod ...' , a'r bennod ar ei hôl yw'r ddwy feithaf yn y llyfr, yn ymestyn dros ddau draean ei hyd ac yn llawn o ddeiagramau a mapiau a lluniau pwrpasol.

Yn y lle cyntaf mae gwerth y bunt wedi newid yn syfrdanol, ac yn ail, mae'r Eisteddfod ei hun wedi ehangu ei gorwelion i radau na freuddwydiwyd amdanynt ddeugain mlynedd yn ôl.

Gydag amser, fe ehangwyd y gorwelion a threfnwyd cystadlaethau llwyfan a roddodd bleser digymysg i do ar ôl to o aelodau.

Buont yn ddoeth a chraff yn ymgodymu ag anffyddiaeth glaslanciau (a chyda llaw roedd y dosbarthiadau i hogiau ac i enethod ar wahân) a buont yn gyfrwng ill dau i ehangu gorwelion drwy sôn am y byd mawr oddi allan.

Mewn geiriau eraill, nid rhywbeth a goleddid gan wŷr di-ddysg a chyfyng eu gorwelion ydoedd y myth Brythonaidd yng nghyfnod y Dadeni.

Y mae'r mudiad wedi bod ynghlwm â nifer o weithgareddau pwysig a phoblogaidd gyda'r aelodau, na ellir eu cynnwys o dan deitlau penodol, a rhain, yn anad dim arall, sy'n dangos mor eang yw gorwelion y mudiad.

Yr agwedd hon tuag at archaeoleg môr sydd wedi lledaenu gorwelion yr astudiaeth a dwyn dimensiwn newydd i statws y maes.

Y mae'n hen bryd ehangu gorwelion, yn enwedig am fod yr unig hanesydd o Gymro sydd wedi gosod ein mudiad iaith mewn cyd-destun Ewropeaidd, y Dr Tim Williams, yn anffodus yn gorsymleiddio y sefyllfa gyfandirol.

Roedd y plant yn gorfod sefyll yr wythnos yn Aberhonddu, ac arferai bws rhyw fath o lori - ddod lan unwaith yr wythnos i fynd â nhw i'r dre'.' Er hynny, gwnâi'r athrawon eu gorau i ledu gorwelion eu disgyblion, gyda thripiau i Abertawe i ddangos y môr iddynt, neu i weld Cefn Brith.

Ychydig filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Vilnius, medden nhw, y mae canol daearyddol Ewrop; er bod gorwelion y llygad yr un peth, mae gwybodaeth fel yna yn newid ffrâm y meddwl.

Dyn a'i olygon ar y pellteroedd y tu draw i lesni'r gorwelion, y crwydrwr cosmopolitan oedd dyn â'i law ar lyw beic, ond dyn o fewn ffiniau'i gynefin yn gwarchod gwinllan ei dadau oedd dyn â'i law ar lorp berfa.