Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorymdeithio

gorymdeithio

Rhyfedd meddwl am y Fyddin Goch yn gorymdeithio ar hyd y Calea Victoriei yn Bwcarest.

Un bore denodd sŵn ffidil yn canu ei sylw ac aeth at ddrws siop i weld criw o gerddorion yn gorymdeithio ar hyd y stryd ac yn ceisio cyhoeddi beth oedd sylfaen eu ffydd.

Yn nes ymlaen byddai'r holl gwmni yn gorymdeithio tua'r eglwys pob un a'i gannwyll ynghynn i ganu moliant i faban bach a anwyd mewn preseb.

Cannoedd o nyrsus yn gorymdeithio i'r Senedd gan obeithio cael rhagor o gyflog.

Hitler a'i fyddinoedd yn gorymdeithio i mewn i Vienna, a chael croeso.

Miloedd o lowyr yn gorymdeithio i Lundain mewn protest yn erbyn y bwriad i gau 31 o lofeydd a cholli 30,000 o swyddi.

60,000 o swffragetiaid yn gorymdeithio drwy Lundain.

gorymdeithio ar y strydoedd, baneri coch yn chwifio a Leon Trotsky yn annog pobl i fod yn barod am chwyldro.

Ond ar y diwrnod ei hun bydd yr ysgolion a'r siopau yn cau ac am unarddeg y bore bydd y plant yn gorymdeithio drwy'r stryd fawr yn eu gwisgoedd swyddogol.