Nid gweslyfr mewn methodoleg ydyw, yn ôl yr awdur, ond cyflwyniad i astudio'r Gymraeg, gosodiad diymhongar iawn, a dweud y gwir, gan fod y bennod olaf, o leiaf yn canolbwyntio ar ddisgrifio methodoleg un ysgol ieithyddol, yr Ysgol Systemig, y gellir ei dilyn ar gyfer gwneud disgrifiad syncronig o'r Gymraeg, ac y mae'r bennod o'i blaen yn olrhain y datblygiadau yn nulliau ymchwilwyr i'r tafodieithoedd.
Sylwer ar y ddau osodiad: (a) dylid cymryd penderfyniadau mor agos ag sy'n bosib at y dinesydd - ac mae ystyr y gosodiad hwnnw'n glir; a (b) dylid gwneud hynny yn unol ag egwyddor subsidiarity, ond dichon y geilw'r egwyddor honno am esboniad.
Os derbynnir y modd y crewyd ac y cychwynnwyd bywyd yma ar y Ddaear yn ol tystiolaeth ddiweddaraf seryddwyr a biolegwyr, yna rhaid inni hefyd dderbyn y gosodiad hwn: sef, os yw'r un amodau yn bod yn rhywle arall yn y gofod yna mae posibilrwydd fod bywyd yno yn ogystal.
Y gosodiad pwysfawr a ymffurfiodd yn ei ben oedd, 'Rwyf i'n bwyta cacennau'.
Dylid cywiro'r gosodiad "Bydd y taliadau unwaith ac am byth yma yn cael eu hymgorffori i mewn i swm yr ariannu sylfaenol am gyfnod o dair blynedd" trwy ddileu'r cyfeiriad at amser oherwydd na phenwyd unrhyw amser o'r fath.
Bod gosodiad unllais bob amser mewn cystadleuaeth i ddiweddu'r unsain neu mewn wythawd â'r gainc.
Nid yw'r gosodiad yn gwbl eglur, ond y dehongliad a roddir arno'n gyffredin yw nad brenin oedd Arthur ond cadfridog o athrylith yng ngwasanaeth y brenhinoedd.
Daw'r Athro Glanmor Williams yn agos iawn at ddweud hyn yn y gosodiad fod y Diwygiad Efengylaidd wedi dod "in the same way as the Reformation, not because of an absence of religious emotion but as the result of an abundance of it" [td.
Nid ydyw'n ddim llai na'r gosodiad hudol hyfryd - 'Mae Gwilym yma.'
Wedyn dyna ailadrodd yr un gosodiad, yn fwy grymus: diddim a mud yn y gofod yw 'holl drybestod dyn a byd'.
Fel mae'n digwydd, mae'r Cor Meibion yr wyf yn aelod ohono, sef Cor Bro Glyndŵr (er mwyn y troednodwyr), yn canu gosodiad Bryceson Treharne o soned 'Dychwelyd' TH P-W; gosodiad teilwng, greda i, sydd yn llwyddo i danlinellu grym y soned ac i gyfleu dehongliad cerddorol o un JR ar ddiwedd ei ymdriniaeth.
Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.
Ond y mae'n deg amau'r gosodiad hwn, oherwydd y gwir plaen yw bod llawer o Saeson sy'n cychwyn yn ein hysgolion yn adran y babanod yn dila eu Cymraeg yn un ar ddeg oed.
"Perffeithrwydd yw nod yr eilradd" "Rhyw y Sais, drais a lladrad." "Mae awgrym yn creu; mae gosodiad yn lladd." "Y lleiafrif sydd wastad yn iawn." "Bydd yn ymarferol - mynna'r amhosibl." ac un arall, sy'n addas iawn siŵr o fod: "Gwae chwi pan ddywedo dyn yn dda amdanoch."
Wrth lunio damcaniaeth am y berthynas rhwng dwy elfen, oni ellir gwrthbrofi'r gosodiad gyda'r ffeithiau sydd wrth law, yna, mae'r gosodiad yn dal tan yr arbraw nesaœ Hynny yw, ni ellir profi dim, eithr yn unig ei wrth-brofi.
wedi i'r gweithgor gyfarfod lluniwyd dadansoddiad pellach o'r datganiadau o a aseswyd gweler yr atodiad i'r adroddiad hwn ) sy'n cadarnhau'r gosodiad uchod ac yn egluro pam fod rhai lefelau fel pe baent yn brin o'r nod.
Ond `tywyll ddiwrnod - diwrnod cymylog a niwlog' yn hanesyddiaeth preswylyddion y palasdai gorwych hyn, a welwn heddiw yn weigion, oedd diwrnod gosodiad i fyny y llywodraeth newydd yn Montgomery.