Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gosodiadau

gosodiadau

Y gwir yw mai disgrifiad noeth ydynt, haniaethol iawn eu gosodiadau hefyd: nid oes un llun diriaethol ar eu cyfyl bron.

Pe bai'r gosodiadau'n gywir, anodd fyddai i neb ddywedyd i'ch erbyn, ond camsyniad sylfaenol eich dadl ydyw anwybyddu'r gwahaniaeth hanfodol rhwng traddodiad byw a thraddodiad marw, a marw hollol ydyw'r traddodiad Pabyddol yng Nghymru.

Pan yw'n gwneud gosodiadau cyffredinol am lenyddiaeth, ei duedd yw pwysleisio elfennau fel crefft a deall, ond wrth drafod llenorion unigol, y maent yn aml yn ei gario ar donnau angerdd nes ei fod yn traethu ar ddwyster eu gweledigaeth o fywyd.

Ei bwrpas oedd, nid yn gymaint i anrhydeddu'r merthyron, ond i ddangos i'r byd fod Rhydychen yn gwrthwynebu safbwynt a gosodiadau gwrth- Brotestannaidd Hurrell Froude.

Ym mis Awst o'r un flwyddyn bu Esgob Rhydychen yn rhoi siars i'w glerigwyr, a chyfeiriodd at y Traethodau i'r Amseroedd, gan feirniadu rhai o'r gosodiadau ynddynt.

Nid ffrwyth edrych ym myw llygaid cyfanrwydd y ffeithiau hanesyddol yw'r damcaniaethau hynny, ond gwneud gosodiadau cyffredinol ar sail ffeithiau a ddetholwyd yng ngoleuni rhagdybiau athronyddol digon hysbys.

Rhaid deall Merch Gwern Hywel yng ngoleuni'r gosodiadau hyn.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Cefnogwch eich honiadau/ gosodiadau/ sylwadau cyffredinol a thystiolaeth e.e.

Trafod y Gosodiadau a'r Dulliau gwarantedig, a hefyd Dulliau y Clerwyr yng nghyfnod y dirywiad, fel y soniwyd yn ddiweddar, a bydd yn drafodaeth agored, a rhyddid i bawb sôn am un neu ragor o'r cyfryw ddulliau.