Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gosododd

gosododd

Canu can y cor a wnaeth Elfed, a gwneud hynny'n argyhoeddiadol urddasol; a gosododd ei batrwm yn gynnar.

Gosododd deledu Saesneg yng Nghymru ar lefel newydd, gan gyflwyno dulliau newydd o weithio, talent newydd ac ategu ein gwasanaeth analog yn llawn.

Gosododd Orig y cawell ar ben y gist de.

Tua'r Nadolig, gan nodi'n fanwl y dydd o'r mis, wedi iddi nosi ac i'r sêr ddod i'r golwg, aeth i weirglodd Ty'n y Gilfach, gan ddwyn polyn gydag ef, a gosododd y polyn mewn llinell unionsyth â simnai y tŷ a rhyw seren sefydlog yn y gogledd.

Wrth gytuno ag ef, gosododd y Pwyllgor y ddadl hyd yn oed yn fwy cignoeth, gan apelio at ystyriaethau doethineb hirben ac o fuddioldeb yn ogystal â moesoldeb:

"O'r gore, fe fyddwn ni yna mewn munud." Gosododd y ffôn i lawr.

Yn ei ffordd ddi-drais, dieiriau, dysgodd hi i ffrwyno ei hofnau : gosododd ei stamp ei hun ar ei chymeriad ac ar eu ffordd o fyw.

Duw a'i gosododd yn y berthynas hon, ac nid Israel ei hun; dyma a'i gwna'n wahanol i'r holl genhedloedd eraill.

ochneidiodd lopez a gosododd y sigâr yn y blwch llwch.

Gosododd allan ystadegau profadwy yn dangos beth oedd y cyflogau wythnosol i weithwyr â sgiliau neu heb sgiliau ganddynt, gan geisio llunio cymhariaeth costau byw, i brofi bod rhieni'n ennill digon i dalu am addysg plant.

Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.

Yn ail pan ddaeth Elfed i Fwcle, fe'i gosododd ei hun ar lwybr a barodd iddo dreulio'i oes yn byw mewn dau ddiwylliant a dwy iaith.

Gosododd hi'n blwmp i lawr ar ganol llawr yr ystafell wely a'i gadael yn syn.

Ar ben y rhestr yr oedd y bwyd gorau debyg a gosododd ei fys ar gyfer hwnnw.

Gosododd rhyw 'awdurdod' neu'i gilydd fastiau dur anolygus yn enw cyfathrebu ar y Rhiw, ac y mae nifer y man feysydd carafannau wedi cynyddu fel pa bai 'Byclins' yn berwi drosodd wrth i ffermwyr sylweddoli fod carafan wen a Saeson brych yn llai o drafferth ac yn fwy proffidiol na defaid a gwartheg.

Gosododd ei dwylo yn y cilfachau, wedyn ei draed.

Anfonodd lythyr i bob perchen lotment, a gosododd hysbyseb enfawr ym mhob rhan o'r deyrnas gyda herald i bob stryd i ddwyn sylw'r cyhoedd atynt.

Mae'r cawell wedi ei osod gan rywun yn hwyr neithiwr mewn lle reit ddirgel yng nghanol y gwair, ac fe ddaeth y person a'i gosododd drwy'r bwlch yn y berth.

Gosododd hithe'r bocs cardboard yn ofalus yn y cefn.

Gosododd y Brenin Affos ddarn helaeth o dir yn union y tu allan i furiau ei balas i fod yn Lotments, a chyhoeddodd fod traean o bob gardd trwy'r deyrnas, gan gynnwys pob lotment, i dyfu wynwyn.

Gosododd Einion ei restr o'r cathod coll ar ganol y bwrdd.