Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gost

gost

Mae Mr Morgan wedi dweud ei fod eisiau ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael iddo ac ystyried y gost.

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Mae'n rhaid dod o hyd iddyn nhw - beth bynnag fo'r gost.'

Ac y mae Ulster heddiw yn talu'r gost.

Gadawodd y rhain gof am sefyll yn nannedd y sefydliad ar gost addoli mewn ogofeydd o olwg ysbi%wyr y Llywodraeth, ar gost carchar yn achos Vavasor Powell ac eraill, ac ar gost ei fywyd i John Penry.

Prif fyrdwn ein gwaith fu dod o hyd i ffyrdd o ddarparu gwerth gwell am lai o gost.

Y Llywodraeth yn cychwyn y 'Valley Initiative' ar gost o wyth gan miliwn o bunnoedd.

Yn wir, cymaint oedd ei ymroddiad yn ei faes a'i bwnc fel y cyflwynai bedwar os nad chwe llyfr newydd, a oedd yn cynnwys rhagor o luniau o'i waith, i bob myfyriwr ar gychwyn ei gwrs, a'r gost i gyd yn cael ei thalu ganddo ef ei hun.

Adnewyddu capeli mewn ardaloedd lle mae dyrnaid o Gymry Cymraeg yn dal i gadw Seion, Soar a Bethlehem i fynd ar gost gynyddol, pan fyddai pawb, a dweud y gwir, yn gallu ffitio i fewn i festri Seion yn deidi.

Pan ledaenodd yr arfer o yfed coffi ar draws Ewrop dechreuwyd ychwanegu sicori iddo, nid yn unig er mwyn lleihau'r gost ond hefyd oherwydd y gred fod sicori'n llesol.

Ar sail canlyniadau'r arolwg, dylid anelu at sefydlu cyfundrefn o ledaenu adnoddau sydd yn gost-effeithiol a sydd hefyd yn sicrhau y defnyddd helaethaf o'r holl adnoddau a gynhyrchir gydag arian cyhoeddus.

Ond yr oedd wedi ei hatgyweirio ar gost y llywodraeth cyn i Curig afael yn ei swydd.

Onid y cwmniau a oedd yn gobeithio gwneud ceiniog mor sydyn o'r fenter a ddylai ysgwyddor gost a a sefyll eu colled.

Yn anffodus, mae gwneud copi%au o'r holl ffilm a dynnwyd wrth weithio broject allanol yn ychwanegu'n fawr at gost.

Ategu gwaith awdurdodau tai trwy ddarparu cartrefi o safon i bobl leol sydd ar incwm isel ar gost y gallant ei fforddio, boed ar rent neu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ynghyd ag ateb angen pobl sydd ag anghenion arbennig gan geisio gwneud hynny o fewn stoc bresennol yr ardal, yn y dull mwyaf effeithiol, efo gwasanaeth sydd yn atebol i'r defnyddwyr a'r cymunedau lleol gan rannu'r adnoddau'n deg rhwng gwlad a thref.

Nid yw Diwygiadau MacSharry wedi ffrwyno'r y chwyddiant yn y gost nag eto leihau'r 'mynyddoedd o rawn' yn y storfeydd.

Dylai'r Gweinidogion gydnabod bod y dull o gynhyrchu adnoddau drwy ddefnyddio'r canolfannau adnoddau yn gost effeithiol iawn gan iddo elwa ar gyfraniad y sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau i leihau y grant.

Problemau teithio Y dadleuon sy'n cael eu gwyntyllu amlaf yw'r gost uwch o deithio i'r de neu'r gogledd, safon gwael y ffyrdd yma yng Nghymru (hyn yn ei dro yn gorfodi aros dros nos); hefyd safon isel y pêl-droed a ragwelir yn y cynghrair newydd.

Yr oedd gwir angen symud ymlaen a'r cynllun ac argymhellodd fod y Cyngor yn ymgymryd â'r gost o gysylltu'r holl dai a bod Cyfreithiwr y Cyngor yn edrych i mewn i gyfrifoldeb perchenogion y tai a werthwyd gan y Cyngor i gyfarfod â'r gost mewn perthynas i'w heiddo hwy.

Ychwanegodd y byddai'r Rheilffyrdd Prydeinig yn barod i ailystyried y sefyllfa os oedd y Cyngor yn barod i gyfrannu'r gwahaniaeth rhwng y gost a'r incwm a dderbynnid gan y gwasanaeth tren hwn.

"Tal Cyfleusterau% Holl gostau argraffu dyblygu prosesu ac unrhyw gost labordy arall a ddaw i ran yr Archif wrth ddarparu'r Deunydd gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw gostau cludo llwytho ac yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth gludo'r Gwaith a'r Deunydd i'r labordy ac oddi yno.

Ond yr un oedd y stori bob ~mser--PwysO ymlaen ar ôl y graig dda gan osgoi'r gwenithfaen a'r 'ffarwel roc' oherwydd y gost o'u symud.

Mae'n weddol amlwg mai'r prif reswm dros brynu'n ail law yn hytrach na buddsoddi mewn carafan newydd yw'r gost.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar gais y tenant am gyfraniad gan y Cyngor tuag at gost difrod a achoswyd i'r carped a phapur ar y wal o ganlyniad i ddŵr redeg i'r tŷ o dan y drws.

Byddai'r gost o drosglwyddo galwadau yn ddrud, a byddai angen help hefyd i dalu amdanynt.

Yr adeg honno rhaid oedd allforio unrhyw gynnyrch tebyg i lo gan nad oedd rheilffyrdd i'w cael a defnyddio'r camlesi'n ychwanegu'n ddirfawr at y gost, a'r gwaith yn llafurus iawn.

'Fe allen ni ostwng safon a mynd lawr i gynghrair y BNL ond fydde'r gost ddim llawer llai.

Fe ellir cyfrif yr argost fel canran o gost defnyddiau, neu o gost llafur, neu o'r ddau gyda'i gilydd; ffordd arall ydyw seilio'r argost ar faint o amser y defnyddir peiriannau ar y gwahanol dasgau.

Gan nad oedd yr elw a wneid o redeg y gwasanaeth tren yn dod yn agos at y gost o'i gynnal bydd y gwasanaeth yn dod i ben.

Y gost oedd y bwgan yma eto, ond yn hytrach na gwario ar 'bowdwr mawr' o bryd i bryd i geisio'i symud yn ei grynswth, buasai wedi bod yn llawer mwy proffidiol i gael peiriant malu metling ('stone crusher') i lyncu'r gwenithfaen fesul tipyn, a'i werthu i wneud ffyrdd yn hytrach na'i fwrw dros y domen.