Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gostwng

gostwng

Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

Oherwydd bod y rhan hon o'r afon yn agos i'r môr, bydd y llanw yn effeithio arni a bydd ei lefel yn codi ac yn gostwng yn ôl y llanw.

Am y tro cyntaf, y Cyfrifiad yn dangos lleihad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, gostwng i 37.2%.

Er mwyn hwyluso trefniadau a gostwng llif y traffig, trefnir bysiau gwasanaeth gwennol a fydd yn teithio, um bob tua pum munud, rhwng y ddwy ysgol a'r maes.

Pris potel o win yn gostwng i 5/6 ( 27c ) Marw Winston Churchill, Albert Schweitzer.

Dylid gostwng y cyflymder yn sylwed- dol, a chymryd pwyll arbennig iawn yn y bylchau rhwng mannau cysgodol, yn enwedig pan fo tir agored yn dod yn sydyn.

Tybed ai wedi callio'r ydan ni, ynte wedi gostwng y safonau?

Y golau yn yr awditoriwm yn gostwng.

Y gobaith yw gallu mynd ar ôl hysbysebwyr er mwyn cael ychydig mwy o incwm, a cheisio cynyddu nifer y tanysgrifwyr, sydd wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd y cyhoeddi anghyson.

Mae rhif yr ymholiadau wedi gostwng gan inni fod yn brin o ddau swyddog datblygu.

Mi fyddan nhw'n pwysleisio fod gwerthiant dur i wledydd tramor wedi gostwng 10% yn ystod y misoedd diwetha - a hynny oherwydd bod gwerth y bunt yn rhy uchel.

Mae staff mewn canolfan arall, canolfan First Line, sy'n gwerthu ffôns symudol, wedi cael gwybod y bydd eu cyflogau'n gostwng.

Dwi'n poeni na fydd seilia' ar gyfer lefel A mor gadarn ag y buon nhw ac y bydd yn rhaid gostwng safon gwaith dosbarth chwech.

Fel hyn dewiswyd Iesu yn gynta' i fod yn Ben, Ar bob peth oll a gre%id mewn daear, dwr, a nen; A thrwy awdurdod ddwyfol i'w gostwng iddo ei hun, Fel corff mawr maith amrywiol oll ynddo Ef ei Hun...

Ond ar y funud olaf, fel petai, mae'r ochr ymarferol, traed-ar-y- ddaear yn cymryd drosodd; fel petai'r golau'n gostwng ar un rhan o lwyfan, ac yn codi ar un arall, yn gwneud i ni gredu yn yr olygfa honno, er bod y llall yr un mor wir.

Yr oedd sŵn uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

Hefyd ar yr un noson fe ryddhaodd y Gymdeithas ffigurau sy'n dangos fod y defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi gostwng yn ystod y flwyddyn.

Fodd bynnag, mae'n achos pryder i'r Cyngor Darlledu bod cyrhaeddiad a chyfran gwrandawyr BBC Radio Wales wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Roedd y glaw wedi peidio a'r gwynt wedi gostwng, ac roedd rhimyn o haul i'w weld trwy freuder y llenni.

Tyfodd o hadau eu collfarn hwy gerddi gwarchod lawer a geisiai gelu'r ffaith fod lles y genedl, fel y i gwelid gan ei hyrwyddwyr, yn gofyn gostwng gwerth y famiaith.

Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod wrth ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd yw: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg, am gyfnod helaeth o bob dydd o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol, gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Er mwyn cyrraedd y nod hwn rhaid gofalu nad yw'r label ail iaith yn gostwng disgwyliadau.

Nifer y glofeydd yng Nghymru wedi gostwng i 44.

Yna gostwng ei ben cyn camu allan i'r awyr agored.

Cyfrif yn dangos fod mwy o dractorau na thyddynnod yng Nghymru, nifer y ffermwyr wedi gostwng o 40,000 ym 1945 i 20,000 ym 1971.

Fe wnaeth - - y pwynt sylfaenol fod cyflogau cynhyrchwyr wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf wrth ystyried chwyddiant a chredydau gwyliau.

Ond ni ddaeth ateb o'r gwyll, a'r unig beth a glywid oedd y rhwyfau'n dyner sblashio'r dŵr wrth iddynt godi a gostwng am yn ail.

Byddwn yn eich argymell i gerdded ar hyd y traeth hir cyn belled â Lavernock er mwyn gweld y modd mae'r graig Rhaetic o'r cyfnod Triasig yn gostwng yn y clogwyni i lawr i'r traeth.

Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.