Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gostyngiad

gostyngiad

Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.

Ar y cyfan mae pethau yn weddol dda efo'r pincod er bod peth consern ynglŷn â gostyngiad yn nifer rhai teuluoedd.

Llai na 150,000 sydd ar y clwt yn swyddogol, gostyngiad o dros 25% dros ychydig flynyddoedd.

Gan mwyaf, gellir priodoli'r gostyngiad i nifer o ffactorau sosio-economaidd cymhleth: arwydd fod cryfder yr iaith mewn rhai ardaloedd ynghlwm wrth ddatblygu cynaladwy o fewn y gymuned ac yn ddibynnol arno.

Pe ddefnyddir yr un sail cymhariaeth â Chyfrifiad 1981, yr oedd gostyngiad o 1.4% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg rhwng 1981 a 1991.

Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i'r mab, Henry Vlll,godi £1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.

Ond mae hwn i'w gymharu â gostyngiad o 17.3% rhwng 1961 a 1971, a 6.3% rhwng 1971 a 1981.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

Ni all neb wadu'r gostyngiad difrifol yn nifer Cristionogion Cymru.

Roedd hyn hefyd yn thema amlwg yng ngwaith BBC Cymru yn ystod y flwyddyn wrth i'w dimau cynhyrchu ddenu'r nifer mwyaf erioed o gomisiynau gan rwydweithiau radio a theledu'r BBC. Mae'r gostyngiad ymddangosiadol mewn cynyrchiadau rhwydwaith yn deillio o amseru cyflwyno'r cynyrchiadau a dylai'r flwyddyn nesaf fod yn un llewyrchus iawn.

Mae amaethyddiaeth, er nad yw'n cyflogi gymaint ag yn y gorffennol o bell ffordd, yn dal i chwarae rhan bwysig yn yr economi, ond oherwydd y newidiadau mewn dulliau ffermio ac yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae'n debyg y gwelir gostyngiad pellach sylweddol yn y nifer a gyflogir yn ystod y deng mlynedd nesaf.

Fe wahaniaethir rhwng y teip yma - y damweiniol - a'r teip patholegol a achosir gan nifer o ddoluriau, fel coma oherwydd is thyroidedd, trawiad enbyd o'r galon, gostyngiad yn lefel y siwgr ar ôl i berson newynog yfed gormod o alcohol, sioc, a gostyngiad ym mhwysedd y gwaed o ganlyniad i ddamwain neu ddolur heintus fel Newmonia, ac yn bennaf mewn person sy'n wael iawn oherwydd gwenwyniad gwaed.

Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.

Gallai hyn yn hawdd iawn olygu gostyngiad pellach yn nifer y swyddi perthynol i amaethyddiaeth.

Oherwydd gostyngiad sylweddol yng nghanran y Cymry fu'n mynychu'r ysgolion hyn yn ystod y ddegawd ddiwethaf bu dirywiad ym medr a gafael y Cymry ar eu mamiaith.

Fodd bynnag, mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg a'n cymunedau ar drothwy'r Mileniwm nesaf yn un dwfn yn sgil gostyngiad parhaus yng nghanran siaradwyr Cymraeg ein cymunedau.

Os byddwn ni'n gweld lleihâd mewn newyddion, gostyngiad mewn safon a chynulleidfa, yna bydd raid i lywodraethwyr y BBC ystyried yn galed beth maen nhw'n mynd i wneud," meddai.

Y mae i'r newid hwn, sef y gostyngiad sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn, oblygiadau pellgyrhaeddol sy'n mynnu ein hymateb os ydym o ddifrif ynglŷn â gwarchod buddiannau'r Gymraeg.