Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

graddedig

graddedig

Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd.

Roedd agweddau disgyblion a fethodd brawf graddedig yr un ¯r gadarnhaol ag agweddau'r rhai a lwyddodd.

Byddai athro, er enghraifft, yn siarad â'i gyd-athrawon am broblemau cyffredinol, gan grybwyll y ffaith y byddai rhyw ffurf ar gynllun nodau graddedig o gymorth i'w datrys.

Y mae'r mudiad nodau graddedig yn un o'r datblygiadau mwyaf diddorol a fu ym maes dysgu ieithoedd modern yn ystod y cyfnod diweddar - ac yn un o'r rhai a welodd y cynnydd mwyaf yr un pryd.

Cytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i Gynllun Darllen Graddedig yn yr ail iaith; dd) bod angen goresgyn yr anhaster o ledu cynllun darllen o un sir i'r llall; e) bod yr Uned Iaith yn gwneud cais i'r Swyddfa Gymreig am Swyddog Cynradd a fyddai'n ymwneud â mamiaith ac ail iaith.

Dyma'n fras gefndir ac egwyddorion y mudiad nodau graddedig.

Adeg gêm rhyngwladol arall cefais gynnig chwarae rygbi yn Llundain gyda thîm y meddygon graddedig, yn Glasgow gyda'r deintyddion neu yng Nghaeredin gyda'r milfeddygon.

Y profiad hwn a roes fod i egwyddorion sylfaenol y trefniant nodau graddedig

Hon oedd y flwyddyn gyntaf i brofion graddedig gael eu defnyddio yn Leeds a'r drydedd flwyddyn iddynt gael eu defnyddio yng Nghaer Efrog.

Cydweddai'r safbwynt â nodau ymddygiadol y cynlluniau nodau graddedig.

Trefniant nodau graddedig yn ei hanfod yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol Gosodir deg lefel o dargedau fel nodau i'r plant, ac yn ôl y lefelau hynny yr asesir eu cynnydd.

Gofynnwyd am arian i'r Cyngor Ysgolion i ymgymryd â'r gwaith a sefydlwyd prosiect ymchwil bychan i weld a oedd yna newid agwedd tuag at ddysgu iaith dramor ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau nodau graddedig.

hefyd i AEM, a chynrychiolwyr addysg uwch a oedd â diddordeb yn y maes O'r symposiwm hwn y deilliodd y Pwyllgor Cenedlaethol ar gyfer Nodau Graddedig mewn Dysgu Ieithoedd Modern (...) y cyfeirid ato'n ddiweddarach â'r acronym amhersain GOML.

Eithr, yn wahanol i'r arholiadau cyhoeddus eraill, ni fu i'r arholiadau graddedig, yn Lloegr, drefniadaeth ganolog.

Gwreiddiau Trefniant y Nodau Graddedig