Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

graddiodd

graddiodd

Un o Bort Talbot oedd ef ac ar ol gweithio yn y diwydiant dur aeth i Goleg Harlech ac yna i Goleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Almaeneg a chael gradd ychwanegol ag anrhydedd uchel mewn athroniaeth.

Anfonwyd Quaboos i Loegr i dderbyn ei addysg ac aeth yn ei flaen i Rydychen lle graddiodd yn anrhydeddus iawn.

Graddiodd Arshad Rasul mewn Peirianneg Electronig o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion (UMIST) yn 1976 ac mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad ym maes peirianneg teledu.

Graddiodd dau arall gydag ef yn y dosbarth cyntaf, sef Idris Foster, Coleg Iesu, Rhydychen, yn ddiweddarach, ac A. O. H. Jarman, Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ar ôl hynny.

Graddiodd yntau yn y gyfraith - yng Nghaer-grawnt - a bu wedyn yn gynorthwywr i William Tyndale.

Mewn athroniaeth y graddiodd Iorwerth a daeth J. R. Jones, wrth gwrs, yn amlwg ar ôl hyn fel Athro Athroniaeth Coleg Prifysgol Abertawe.