Ffeithiau oedd dymuniad Mr Gradgrind, ymgorfforiad perffaith o awch oes Victoria amdanynt.
Er bod y math o wybodaeth yr oedd Gradgrind yn ei geisio wedi troi'n ddihareb am ddiffyg dychymyg, ni ddylem anghofio'r rhesymau pam yr oedd y Fictoriaid yn mynd ar ôl ffeithiau, nac am y tro da a wnaed â'u disgynyddion trwy eu casglu.