Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

graenus

graenus

Gyda'r holl son fu wedyn am 'Gymraeg crap' rhaid nodi i'r cynigion oll gael eu cyflwyno mewn Cymraeg caboledig a graenus fyddai'n siwr o roi gwefr orgasmig i Gwilym Owen a Hafina Clwyd.

A ffrwyth hyn oedd y miloedd pobl ar hyd a lled y wlad a allai annerch cynulleidfa fawr mewn capel, eglwys a neuadd mewn Cymraeg graenus.

Rhoes ei stamp yn drwm ar y cylchgrawn mewn dwy ffordd, trwy fynnu cyfraniadau cymharol fyr, bywiog, graenus (cywirai a chwtogai'n gall), a thrwy ddenu awduron ifainc i gyhoeddi ynddo.

Nid oeddem i loetran o gwmpas Cnwc y Clap, cornelyn uchel uwchben harbwr y Cei, a gwrando ar y morwyr a'r pysgotwyr a arferai ymgasglu yno ac adrodd am eu hanturiaethau ar y mor a son am arferion cudd rhai o bobl barchus y Cei a hynny mewn Cymraeg graenus, anfeiblaidd.

Yn sicr, dydi meddylgarwch dreiddgar a Chymraeg graenus Gwyn Erfyl, gyda phob gair wedi ei ddewis yn ofalus, ddim yn rhywbeth y mae rhywun yn gweld gormod ohono y dyddiau hyn.