gramadegau Lladin dau Rufeiniwr, Aelius Donatus a Priscian, a roes ffrmawaith i astudiathau Lladin gramadegwyr yr Oesoedd Canol.
Felly, yn yr un modd, er y byddai rhai gramadegwyr yn manylu mewn ffordd wahanol, fe ddwedwn i mai yr un hanfod o ddibynnu sydd mewn brawddeg fel 'Lladdodd Gwilym y ci.' 'Gwilym' eto yw'r canol.
Wrth gymharu rhestrau o eiriau yn yr ieithoedd hyn sylwyd ar y cyfatebiaethau seinegol rhyngddynt a lluniwyd 'deddfau seinegol', sef fformiwlâu i ddynodi'r cyfatebiaethau hyn, ac aeth corff o ysgolheigion ym Mhrifysgol Leipzig yr Junggrammatiker, 'y gramadegwyr newydd', i gredu bod y 'deddfau' hyn yn ddieithriad, bod eglurhad i bob cyfuniad ac nad damweiniol oeddynt.