Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grantiau

grantiau

* Sgrifennu polisi grantiau.

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

Derbyniant grantiau cymharol fach gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae eu bodolaeth yn dibynnu'n fwy ar werthiant, hysbysebion lleol, a gweithgareddau codi arian lleol, sydd ynddynt eu hunain yn isgynhyrchion cymunedol pwysig.

Wrth ymdrin â'r Llyfrau Gleision, rhaid cofio i'r drafodaeth ar y pryd ddigwydd yng nghyd-destun y ddadl ynglŷn â grantiau i addysg.

Gan mai ar gais (neu o leiaf gyda chydsynied) Yr Adran y sefydlwyd rhai canolfannau, ac oherwydd y drefn fod y Swyddfa Gymreig yn cynnig grantiau yn benodol am staffio, mae amwysedd yngln â chyfrifoldebau staffio.

Credai'r gwirfoddolwyr mai dod ag addysg o dan ddylanwad yr Eglwys Wladol oedd nod y Llywodraeth, tra dadleuai'r garfan honno a oedd yn barod i dderbyn grantiau, fod y Cymry'n rhy dlawd i gynnal eu hysgolion a'u colegau eu hunain, ac y dylid manteisio ar y cymorth.

Bydd hyn yr un mor berthnasol i gynlluniau a ariannir yn rhannol gan Grantiau o'r Swyddfa Gymreig.

Disgrifir hefyd drefniadaeth y Cyngor Llyfrau o safbwynt system ddosbarthu a grantiau cyhoeddi a chynigir rhai egwyddorion fel sail i weithredu yn y dyfodol a model o system i wireddu'r egwyddorion.

Mae bron draean yn mynd ar grantiau a'r gweddill ar gyfer gweinyddiaeth.

Clywir llawer yn cwyno fod bywyd yn broblem, yn enwedig wrth drafod pethau fel dyfodol rygbi rhyngwladol Cymru, tîm criced Lloegr, grantiau ymchwil, etc.

Er bod rhai o'r paneli hynny wedi cyfarfod yn gyson - er enghraifft addysg a'r sector cyhoeddus - dim ond unwaith y buodd yna gyfarfod llawn o'r panel grantiau a strategaeth.

Doedd grantiau ddim yn cael eu rhoi am flwyddyn gyfan ar y tro; roedd angen cyflwyno cynlluniau busness manwl a'u trafod ac roedd y Bwrdd yn canolbwyntio ar fudiadau gyda'r prif amcan o hybu'r iaith.

Fe fyddai grantiau ar gael ar gyfer gwella edrychiad adeiladau masnachol.

Gan fod amaeth Gymreig mor ddibynnol ar y gyfundrefn gynhaliol (y grantiau) - ofnir i'r newidiadau yn y PAC achosi yn y man gwymp pellach yn incwm y ffermwyr ac yn eu nifer.

Roedd sgript Dafydd Huws yn plethu sawl elfen yn gywrain: nid yn unig yr oedd yn ddiwrnod cyntaf i Carys ond roedd yn ddiwrnod cyhoeddi grantiau gwella tai.

(ii) Sefydlu strategaeth a chanllawiau newydd ar gyfer ymdrin â cheisiadau am grantiau adnewyddu tai.

Yn sgîl y trafodaethau a ddigwyddodd rhwng Y Swyddfa Gymreig, PDAG a'r asiantau cynhyrchu cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd aeth heibio, gofynnwyd i PDAG geisio cysoni'r system o gyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau fod grantiau cyhoeddi deunyddiau addysgiadol yn cael eu dyrannu ar seiliau tebyg i bawb ac yn gyson â threfniadaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Gellir cael grantiau gan Gyngor y Celfyddydau, Cyndeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, Cronfa Gulbelkin, cyfran o'r trethi, Cyngor Sir Clwyd, Yr Awdurdod Datblygu, ac ati, tuag at gynnal ac atgyweirio'r Stiwt.

Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar ein gallu i ddenu grantiau o'r Undeb Ewropeaidd i hybu'r Gymraeg.

Datblygiad y Cynllun Grantiau Datblygu i Fusnesau Bach

(i) Sefydlu trefn blaenoriaeth mewn perthynas i geisiadau am grantiau dewisol.

O safbwynt cyllido'r broses cynhyrchu gan yr Adran, y sefyllfa hanesyddol yn y canolfannau adnoddau yw bod rhai grantiau yn cefnogi cyflogi staff yn ganolog er mwyn darparu clwm o brojectau a bod grantiau eraill yn cefnogi staffio a phrojectau penodol fel eitemau ar wahân.

(a) Cynlluniau Grantiau Bychain (HOW)

I raddau helaeth ymateb i argymhellion y llywodraeth 'roedd y ffermwr unigol - datblygwyd peirianwaith eang o grantiau a chyngor ac o addysg, yn wreiddiol dan adain Llundain, ac yn ddiweddarach o dan ddylanwad Brwsel a'r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC/CAP).

Ceisiodd y Torïaid brynu'r Cymry Cymraeg trwy roi iddynt grantiau i ddiwylliant Cymraeg a'u Quangos bach eu hunain ar yr amod nad oeddent yn herio'r drefn.

Dim ond wedi cael y statws hwn y bydd y Gymraeg yn gallu hawlio grantiau allweddol oddi wrth Ewrop.

Mae'n rhaid cryfhau statws y Gymraeg er mwyn cystadlu'n effeithiol am grantiau i'w hybu o'r Undeb Ewroopeaidd.

Roedd grantiau'n brin, y farchnad lyfrau'n ddigon simsan, a'r un sefydliad wedi dechrau cefnogi a hybu'r fenter.