Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grawn

grawn

Rhan o'r deffroad hwn oedd y Cymdeithasau Taleithiol; ond rhan arall, fwy arwyddocaol o bosibl, oedd y cymdeithasau Cymreigyddol a gododd fel grawn unnos trwy'r wlad yn ystod yr ugeiniau a'r tridegau, ac yn enwedig yn y cymunedau diwydiannol newydd yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd yr adeg honno bron yn uniaith Gymraeg.

Chware teg iddo, efallai fod y grawn gwenwynig yn eithriadol o debyg i'r da.

Gelwir ef yn ergot ac mae'n edrych fel ewinedd duon hir sy'n ymddangos rhwng y gronynnau grawn.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.

Roedd yn rhaid aredig traean y tir a thyfu grawn a thatws.

Heddiw fodd bynnag mae pob melinydd yn gwrthod derbyn grawn sydd wedi cael ei heintio.

"Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, A Ddaeth Ato Ef." Torrodd Cyllell ei gariad mwyaf cu drwy chwyd fy chwerwedd, a rhedodd allan grawn drewllyd.

Bu Môn yn ddibynnol ar amaethyddiaeth erioed ac, yn yr hen amser, roedd yn darparu grawn ac anifeiliaid ar gyfer rhannau mynyddig y tir mawr.

Yn ail, mae llawer o'r rhai sydd yn y gerddi yn y Gwanwyn a'r Haf yn ei throi hi am y wlad yn y Gaeaf ac yn bwydo ar bob math o hadau, a hefyd ar weddillion y grawn yn y caeau ūd a'r gwenith Er bod y pincod i gyd yn byw ar hadau, mae pig y rhan fwyaf ohonynt yn amrywio i drin yr hadau y maent yn ei fwyta, ac i ddileu unrhyw ffraeo ynglyn â bwyd.

Ymhellach i ffwrdd mae'r dolydd glas a'r caeau yd ger y felin sy'n malu'r grawn yn flawd i'w fwyta.

Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.