Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

greal

greal

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Mae'r testunau Cymraeg a adwaenir fel Ystoryaeu Seint Greal yn gyfieithiad a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar ddeg o ddwy ramant Ffrangeg annibynnol, La Queste del Saint Graal (a luniwyd c.

Nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt droi at y Tristan en Prose, er bod fersiynau diweddar o Gylch y Fwlgat yn cyfuno'r Tristan hwnnw â hanes y greal,' ac ni adawodd rhamantau cynnar Be/ roul a Thomas' eu hôl ar chwedlau Cymraeg.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Nod awdur y Tristan en Prose oedd cyfuno hanes Tristan â phrif ffrwd hanes y byd Arthuraidd, ac felly penderfynodd gyplysu ei hanes ef â fersiwn Cylch y Fwlgat o hanes y greal, sef La Queste del Saint Graal.

Ysywaeth, mae'n debyg na fydd yr argraffiad presennol yn mwynhau'r un math o gylchrediad eang a chroeso cyffredinol ag a gafodd stori%au'r Greal yng Nghymru ac Ewrop yr oesoedd canol, aeth y chwedlau a roddodd gymaint o fwynhad i'n cyndadau canoloesol bellach yn faes academaidd bur.

Er bod y Queste ei hun wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg, (fel rhan gyntaf Y Seint Greal), ac er bod Cylch y Fwlgat wedi bod yn hynod ddylanwadol ar destunau rhyddiaith Arthuraidd Cymraeg, nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt fod yn gyfarwydd â'r Tristan en Prose Efallai mai ei anwybyddu a wnaethant, oherwydd y mae lle i gredu mai fersiwn o'r 'Post-Vulgate Queste', sef y fersiwn lle ymgorfforwyd hanes Tristan, a ddefnyddiwyd gan gyfieithydd Y Seint Greal.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Bydd yr adolygydd presennol, am un, yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi ail ran Ystoryaeu Seint Greal - ac yn gobeithio na fydd raid aros ugain mlynedd arall amdani!

O'r amrywiaeth o destunau a gyfieithwyd yr oedd y rhamantau Arthuraidd, gan gynnwys chwedlau'r Greal, ymhlith y mwyaf poblogaidd.

'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.