Dyna a gredai pawb - o ran hynny.
Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".
Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.
Ac ar ben hynny, hefyd, pan gredai hi fod cleient yn wirioneddol ddieuog, roedd y dasg o'i amddiffyn yn fwy beichus fyth.
Un arall o'r beirdd ifanc newydd oedd Caradog Prichard, aelod o'r genhedlaeth o feirdd a gredai fod popeth yn ddeunydd barddoniaeth.
I'r sawl a gredai yn nylanwad yr amgylchedd, gallai addysg fod yn llwybr at newid a gwelliant.
Serch hynny, yn groes i'r hyn a gredai'r mwyafrif o bobl, ychydig o garcharorion a fu farw ar fwrdd y llongau carchar a deithiai i Awstralia a 'does dim sail i'r cyhuddiad cyffredin mai diffyg cydymdeimlad ar ran yr awdurdodau fu'n gyfrifol am farwolaethau afraid yn ystod y siwrnai hir.
Yn ail, er bod Coleg Ieuan Sant yn ystod y cyfnod hwn yn nythle i'r Piwritaniaid, a gredai fod angen diwygio Eglwys Loegr ymhellach fyth yn ôl patrwm Eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, ac er bod tiwtoriaid i Forgan a Phrys ymhlith arweinwyr y blaid Biwritanaidd, y mae'n ymddangos i Forgan, a Phrys hefyd yn y diwedd, lynu'n ddiysgog wrth y blaid Anglicanaidd swyddogol, a arweinid yng Nghaergrawnt ar y pryd gan un o'r Athrawon Diwinyddiaeth, y Dr John Whitgift.
Llonnwyd calonnau'r rhai a gredai wrth feddwl bod gobaith am ryw gysgod gwan o deyrnas nefoedd ar y ddaear gyda buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur.
'Roedd rhai o lywyddion y dydd, fel J. E. Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.
Gwladwriaeth y siri a'r ysbïwr a'r ceisbwl oedd hi, ac nid a gredai a ddywedai'r call.
Mamgu, a gredai mai byd pinc a glas oedd byd merch fach.
Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.
Wedyn, yn ôl blyrb y Bwrdd, 'mae pwyntiau eraill yn dangos ambell her sy'n wynebu'r iaith' — dim ond 41% a gredai bod dyfodol i'r iaith Gymraeg yn eu hardal hwy.
Nid y bobl gyffredin yn unig a gredai yn yr alcemegwr.
Er enghraifft, yn wahanol i'r hyn a gredai rhai pobl, cafodd Huw Jones ei eni tua 20au neu 30au'r ddeunawfed ganrif.
Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.
Wrth gwrs, petaech yn gofyn iddo a gredai yng ngwir ddyndod Iesu, byddai wedi ateb ar ei ben, wrth gwrs ei fod.
Dyna a gredai'r plismyn.
Yr Ysbryd, fe gredai'r Diwygwyr, sy'n cymhwyso gwaith achubol Crist at bersonoliaeth dyn.