Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gredo

gredo

Ac ar yr eiliad nesaf, fel edrych i mewn i ddwy ogof a'r haul yn eu pen draw yn mynd rownd y ddaear yn ôl astonomeg y Dyrchafael a'r peth hwnnw a elwir mor chwerthinllyd o anghywir yn Gredo'r Apostolion.

Breuddwyd Iolo oedd sefydlu cymdeithas a fyddai yn hollol agored i bawb a fynnai chwilio am wirionedd crefyddol, heb ofyn am unrhyw amlyniad i gredo na dogma.

gwyn ei fyd y Cristion y mae credu holl Gredo Nicea yn hawdd a sicr a diysgog iddo.

I'r neb a gredo fod teimlad a phrofiad cynhyrfus yn unig sail barddoniaeth, ni ddetgly Cerdd Dafod fyth ei chyfrinach.

Ni fendithiwyd yr un garddwr erioed yn reddfol â dewiniaeth yr hen gredo am "fysedd gwyrdd".

Ceraist y byd fel y bu iti roi dy uniganedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

Parhad o'r ymosodiad hwn ar gredo Cymdeithas yr Iaith yw mynnu nad 'brwydr' yw'r un dros y Gymraeg bellach, ac nad 'baich' o urhyw fath ydyw.

Ni chlywodd yr un ohonynt erioed am gredo'n cynnwys 'pechod' fel un o'i bannau...

Oherwydd nid ar gred y mae eich pwyslais, ond ar gredo; nid ar deimladau a meddyliau personol ond ar fformiwla amhersonol; nid, os mynnwch, ar yr hyn a genfydd dyn ond ar yr hyn a ddywedir wrtho gan ei eglwys.

Efallai y byddai wedi bod yn well pe na bai mor barod i bregethu'n erbyn rhyfel a lladd, ond pwy a all warafun i rywun ifanc mor llawn o sêl rhag mynegi'i gredo bersonol ei hun, yn enwedig o bulpud yr Un a lefarodd y geiriau 'Câr dy elynion', i fyd a oedd yr un mor gibddall â'r un yr oedd y gweinidog yn byw ynddo.