Llwyddiannus iawn fu'r ymdrech i ddwyn y Grefydd Anghydffurfiol i blith gwerin Gymraeg yr ardal hon, ond aflwyddiannus fu'r ymdrech i'w Seisnigeiddio, ac yn yr oes hon holwn a yw'r fantol wedi troi.
Fe aethon nhw ati i ddinistrio pob agwedd o'r ugeinfed ganrif yn enw'r chwyldro, gan gynnwys cael gwared ar grefydd, arian a chysylltiadau teuluol.
Islam yw crefydd traddodiadol Libya, a'r unig grefydd yno heddiw.
Y gwrthdaro rhwng y grefydd sefydledig a 'zel danbaid' y methodistiaid yw cefndir Merch y Sgweiar Bobi Jones a ymddangosodd yn Barn, gyda'i phortread byw o Theophilus Evans, ac aiff Elwyn L.
Mae'n syndod gynifer o bobl yn yr eglwysi sy'n ceisio darganfod ar ba gyn lleied o grefydd y gallant fyw.
Milwyr Rhufeinig oedd y cyntaf i ddod â'r grefydd Gristnogol i Gymru.
Mae hynny ynddo'i hun yn arwyddocaol; mae'n ein gwneud yn ymwybodol o'r tyndra rhwng y grefydd 'newydd' a'r hen fywyd, ac yn pwysleisio mai mudiad gwerinol yw Methodistiaeth, ond ein bod ni yn y nofel yng nghwmni arweinwyr y mudiad - teulu cefnog Gwern Hywel (ac i Saunders Lewis y dosbarth pendefigaidd hwnnw, uchelwyr mawr neu fach, yw'r rhai sydd a'u gwreiddiau ddyfnaf mewn hanes), a'r uchelwyr newydd - y gweinidogion.
Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.
ch) Caethiwed arall oedd caethiwed y gorchmynion y grefydd Iddewig.
Bu cryn lawer o erlid ar y rhai a droisai'n Gristnogion, ac wedi ymadawiad y Rhufeiniaid aeth y mwyafrif ohonynt yn ôl at yr hen grefydd.
...a Themâu Mae gan bob un o'r pum rhaglen ei thema arbennig ei hun, o fwyd a chadw'n iach i grefydd, adloniant, gwaith a chwarae.
Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.
Felly gwelir fod y Testament Newydd yn defnyddio amrywiaeth o drosiadau, bron bob un ohonynt yn deillio o syniadau yn y grefydd Iddewig, i ddisgrifio gwirionedd canolog iachawdwriaeth drwy Grist.
Yn ei ffurfiau cynharaf mudiad yn galw am grefydd ddyfnach, am hunan-ddisgyblaeth llymach ac am fywyd moesol ar lefel uwch nag a welwyd yn y Brifysgol er dyddiau John Wesley ydoedd.
Nid oedd ganddynt ronyn o amynedd tuag at grefydd na'r Eglwys gan fod y naill beth fel y llall yn eu golwg hwy yn gwbl amherthnasol.
Er gwaetha'r ffaith ein bod yn elynion, a mi'n garcharor ac yntau'n warcheidwad, roedd ei grefydd newydd, ei Gristnogaeth, yn golygu parodrwydd i fentro'i fywyd dros ei gyd-ddyn, pwy bynnag ydoedd.
Y tro hwn yr oedd yr ateb mor fyngus fel nas deallais yn iawn, a thybiais iddi ddweud ei bod yn meddwl am grefydd.
Ef a'i gyd-weinidogion oedd 'cyfarwyddwyr y bobl, chwedl yntau, a'u dyletswydd, fel cynrychiolwyr y grefydd honno a oedd, yn eu golwg hwy, wedi achub y Cymry rhag tywyllwch yr oes o'r blaen, oedd goleuo'u cydwladwyr.
Dyma'r grefydd newydd, y gofal gormesol am angenrheidiau'r corff.
Pan fabwysiadai'r Celtiaid y grefydd newydd, torrent yn rhydd oddi wrth eu llwyth arbennig, gan ymwadu ag ef yn llwyr.
Yn hon ceir trem ar grefydd Cymru o'r dechrau hyd heddiw.
Yr ydych yn tybio mai traddodiad Cymru yw'r grefydd Gatholig, am mai hi oedd ein crefydd pan oedd ein llenyddiaeth a'n diwylliant ar ei orau; felly am eich bod yn gwybod gwerth traddodiad yr ydych yn tueddu (a siarad yn gynnil) i ddywedyd mai ennill fyddai i Gymru fyned yn Babyddol.
Hyd hynny, paganiaid oedd y Prydeinwyr ac yn wir, gan mai ychydig ohonynt a droes at y grefydd newydd, paganiaid a fuont am amser.
cyffrôdd drwyddi, trodd ei phen tuag ataf, y llygaid yn dân, a dweud yn glir glir, 'Am lefydd, nid am grefydd, am Rosgadfan.' Yna ymlonyddodd drachefn.
Cydnebydd y ddau eu bod yn dilyn 'hen grefydd y Celtiaid' ac yn 'addoli natur'.
Mae'n ddiau y gallasai gysoni'i fywyd gwleidyddol â'i grefydd draddodiadol, Hindwaeth, a chydnebydd ef ei hun ddylanwad Cristnogaeth arno, yn enwedig y foeseg a geir yn y Bregeth ar y Mynydd.
Dechreuodd fyfyrio ynghylch arwyddocad enwau megis Bod Drudan a Myfyrion, ac am yr olion hynafiaethol a welid yno ac yng Nghaer Leb ac y tybid eu bod yn feddrodau ac yn allorau'r hen grefydd.
Nid ydwyf yn dywedyd fod llafurio ac ymboeni gyda hyn o angenrheidrwydd yn niwed i wir grefydd a duwioldeb yn yr enaid....
Cyfeirient yn barhaus at 'rywbeth' arall ar wahân i grefydd fel cyfrwng i sefydlu trefn amgenach.
Felly, fel gawn Williams yn mynnu (fel Morgan Llwyd o'i flaen) nad digon crefydd pen neu grefydd gwefus.
mae'r grefydd frodorol ynghlwm wrth ddechreuadau mytholegol y llwyth, ac mae pob tylwyth yn parhau i dalu gwrogaeth i'r pennaeth lleol, y Syiem.
Pabyddion dirgel oeddynt yn ceisio adfer yr hen grefydd, meddai rhai.
Yna hi sy'n gyfrifol am dro%edigaeth merched yr Hafod ac yn y diwedd yn cymell yr hen ddyn eu tad a Bob eu brawd i droi at y capel ac at grefydd.
Yn wir, fe welodd ef lifeiriant datblygiad i raddau uwch na neb arall; a phan gofiom mai dangos dyn yn ymgyrraedd at dynerwch uwch ac at ryddid cydwybod a wna stori datblygiad, gallwn sylweddoli mai cynorthwy i grefydd ac nid gelyn, ydyw'r gred mewn Datblygiad ...
Mewn rhan o Asia lle roedd y Moslemiaid yn fwyafrif llethol hyd nes dyfod cyfnod Stalin, mae crefydd yn blodeuo eto a'r grefydd honno yn ei thro yn erfyn y gellir ei ddefnyddio i ledu'r bwlch rhwng Uzbekistan a Rwsia.
A dyma fi, gyda'r moesgarwch hwnnw sy'n dod i ddyn mewn ysbyty a llefydd lletchwith tebyg, yn dweud: 'Wel, gan fod y Pasg mor agos, mae'n weddus ddigon eich bod chi'n meddwl am grefydd.' Os do fe!
Byddan nhw'n gwneud hyn bron bob nos; nid yw'n syndod, felly, fod y grefydd Foslemaidd wedi dod yn rhan o feddylfryd y bobl ac yn treiddio i bob agwedd o'u bywyd beunyddiol.
Lle byddai ambell i awdur yn gwahardd cwestiynau ar ôl-strwythuraeth, neu un arall efallai'n cau'r drws yn glep ar grefydd, mae'n gwbl nodweddiadol o Wil Sam i fwrw iddi yn syth trwy sôn am beth yn hytrach na haniaeth.
Er i grefydd a chrefft yr India ddylanwadu ar wareiddiad Cambodia, mewn amser tyfodd y gwareiddiad hwn i fod yn arbennig o nodweddiadol o'r genedl ei hun yn Angkor.
Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.
Annheg fyddai creu'r argraff mai un sylweddoliad unwaith ac am byth oedd hwn, eithr o hynny ymlaen gwnaeth Peate brofiad yn gynsail ei farddoniaeth a'i grefydd fel ei gilydd.
Y Diddanion oedd yr unig lecyn golau yn Nhrysorfa'r Plant ac am Y Cenhadwr, ofer fu'r ymdrech erioed i ddod o hyd i ddim ynddo i ysgafnhau y baich o grefydd oedd yn pwyso arnon ni.