Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grefyddol

grefyddol

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

Urdd oedd hon a roes sylw arbennig i addysg grefyddol ymhlith lleygwyr er mwyn cryfhau defosiwn a phietistiaeth yn eu mysg yn ôl dulliau y devotio moderna (defosiwn modern) fel y'i gelwid.

CGAG: Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, CPGC Bangor

Rhoddodd wybodaeth drylwyr am y deddfau sy'n ymdrin ag addysg grefyddol, ac am y sefyllfa yng Ngwynedd.

Yn arbennig, efallai, oherwydd fod fy ffrindiau croesawgar yn bobol grefyddol a charedig iawn.

A chynnyrch ei ddylanwad ef oedd preifateiddio ffydd grefyddol a'i hysgaru oddi wrth wyddoniaeth.

Cymdeithasau cenedlaethol oedd y Cymdeithasau Taleithiol, cymdeithasau lleol oedd rhai'r Cymreigyddion; a thra denai'r Cymdeithasau Taleithiol eu cemogaeth yn bennaf o blith yr offeiriaid a haenau uchaf cymdeithas, roedd y Cymreigyddion yn fwy 'eciwmenaidd' yn grefyddol ac yn gymdeithasol.

Fe gefais fy magu ar aelwyd grefyddol, lle na chrybwyllwyd erioed y gair 'ofergoelion', eto wrth edrych yn ôl gwelaf fod fy mhlentyndod yn llawn o ddywediadau ac arferion oedd yn ymylu ar fod yn ofergoelus.

Nid meithrin dosbarth dethol o ddysgedigion a fynnai ef, ond cadw gwerin Cymru'n grefyddol a'i gwneuthur yn ddarllengar a goleuedig.

Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.

Cynhwysai nifer o gerddi rhyfel, yn gymysgedd o rai dwys grefyddol, rhai hiraethus-deheuol, ac un ffyrnig o feirniadol.

Ymhlith yr adnoddau mae radio, teledu a gwefannau ar gyfer llythrennedd, rhifedd, daearyddiaeth, y cwricwlwm Cymreig, cerddoriaeth, addysg grefyddol, hanes... mae'r pynciau yn cwmpasur rhan fwyaf o bynciaur Cwricwlwm Cenedlaethol a mwy.

Ymhlith yr adnoddau mae radio, teledu a gwefannau ar gyfer llythrennedd, rhifedd, daearyddiaeth, y cwricwlwm Cymreig, cerddoriaeth, addysg grefyddol, hanes... mae'r pynciau yn cwmpasu'r rhan fwyaf o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a mwy.

Newydd ddod i Gymru yr oedd Anglicaniaeth (neu ryw wedd arni), ac yr oedd dysgeidiaeth a gwybodaeth grefyddol yn brin iawn yma.

A gafodd bachgen erioed well siawns i fod naill ai'n eithriadol o grefyddol neu'n eithriadol o groes i hynny?

Ynglŷn â phob cwestiwn o natur grefyddol mynegwyd difaterwch enbydus.

Os cymerwn yr hyn a ddywed Saunders am ei ffydd grefyddol a'i gymhwyso at ei feirniadaeth, gallwn ddweud mai gamblo fod ei ddehongliad ef yn iawn a wna, heb unrhyw brawf.

Rhaid deall Keats and Shakespeare yn erbyn cefndir ehangach y ddadl lenyddol-grefyddol rhwng Murry a T.

mi wn fod na bobl grefyddol dda iawn, yr enghraifft y mae pawb yn ei rhoi yw'r fam teresa sy'n profi i mi mor eithriadol o brin ydyn nhw.

A yw trefniadau'r ysgol yn galluogi disgyblion i wneud y cynnydd mwyaf posibl, gan sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys ar gael, yn cynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol, addysg grefyddol, lle bo angen hynny'n gyfreithiol, ac unrhyw ddarpariaeth gwricwlaidd arall?

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Ac nid monopoli pobl "grefyddol" yw ffydd.

Fe ddichon ei fod ef, fel William Salesbury o'i flaen, wedi ymddiddori yn y llenyddiaeth grefyddol Gymraeg (cyfieithiadau gan mwyaf o'r Lladin) a gafwyd yn sgîl deffroad y drydedd ganrif ar ddeg (gw.

Americanaidd Will Coleman ynglyn â sut y lluniwyd ei farn grefyddol gan ei gyndadau a oedd yn gaethweision ym Mhellafoedd y De yn America, yn y rhaglen Cut Loose Your Stammering Tongue.

Os mewn troedigaeth grefyddol yr oedd ei ddiddordeb ef, onid achlysur cyfleus - ond sylfaenol amherthnasol - oedd y cyd-destun hanesyddol a ddewiswyd?

Drwy'r diwylliant yma oedd y bobl yma yn bobl grefyddol?

Felly, er mwyn ceisio'u paratoi hwythau i allu hyfforddi eu praidd bu raid cyfieithu i'w mamiaith ar eu cyfer lawer o lenyddiaeth grefyddol yr oes a ysgrifenasid yn Lladin yn wreiddiol.

Ni allai neb ddweud yr adeg honno ei bod yn wraig grefyddol ond wrth aros i'r siop agor cofiodd am gyngor ei mam a gweddi%odd am gymorth i'w dysgu sut i wneud y gwaith.

Hyn sy'n esbonio'r corff sylweddol o lenyddiaeth grefyddol yn y Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill a oroesodd o'r Cyfnod Canol.

ta beth, mae na bobl dda sydd ddim yn grefyddol o gwbl a dwi'n edmygu'r rheina yn fwy achos dydyn nhw ddim yn disgwyl rhyw wobr yn y nef.

A ydynt yn sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys ar gael, gan gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol?

Y mae ambell ddarn o graffiti yn codi dir uchel mewn celfyddyd weledol: Balls to Picasso - Ambell un yn grefyddol ei naws: "Jesus Saves--but Southall is better." Mae amryw byd yn rhywiol wrth gwrs ac mae waliau tū bach yn feysydd ymchwil anhepgorol i'r sawl sydd am lunio Blodeugerdd o Limrigau neu hyd yn oed gasgliad o englynion coch.

Da oedd bod cnewyllyn o Gymry cadarn a deallus na chydymffurfiai â'r Wladwriaeth Seisnig yn ei gwedd grefyddol, ac a fyddai'n arddel radicaliaeth a ystyriwyd hefyd yn fygythiad i'r drefn.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Ymhlith yr ysgolion enwocaf yr oedd y rheiny yn yr Almaen a'r Iseldiroedd a berthynai i'r urdd grefyddol ryfedd honno, Brodyr y Bywyd Cyfun (...).

cyn belled ag y mae'n traddodiad beth bynnag yw traddodiad, neu beth bynnag a olygir wrth sôn am draddodiad cyn belled ag y mae'n traddodiad llenyddol yn y cwestiwn, hyd at y ganrif ddiwethaf roedd traddodiad pob gwlad yn grefyddol, mwy neu lai.

Ni thybiodd neb fod y plant yn grefyddol, er eu bod wedi mynychu digon o gyfarfodydd y Capel i hawlio braint saint yr Hen Destament i alw unrhyw un a bechai'n eu herbyn yn gythraul ac yn ddiawl hefyd.