Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

greigiau

greigiau

Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.

Clywais ddweud y bu hwn yn fynydd-tanllyd unwaith a bod ei greigiau lliwgar yn profi hynny.

Ac y mae'n fwy gwahanol fyth erbyn heddiw ynghanol yr anghenfilod o beiriannau diweddau yma sy'n medru symud yn eu nerth eu hunain a hyd yn oed heb olwynion o danynt, dim ond stribedi dur yn ymgreinio fel lindys trwy greigiau a mwd a mawn a chors.

Yn wir yr oedd yr hen greigiau eu hunain fel pe buasent yn edrych ac yn gweiddi neu yn atsain 'Haleliwia!' wedi clywed y fath gyfnewidiad.

Nid oedd wedi rhagweld faint o greigiau fyddai'n disgyn: disgynnodd un ohonyn nhw ar ei fraich, gan rwygo ei lawes.

Rhoddwyd gwaith i Ieus a dweud wrtho i wylio am greigiau.

Roedd Tony ar greigiau ger Aberdaugleddau ac mi gafodd plisman hyd i Gripper ar draeth Angle.

Weithiau daeth y diwedd o fewn oriau iddynt ffarwelio a'u cyfeillion, megis a ddigwyddodd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn hanes y Tayleur a hyrddiwyd ar greigiau Ynys Lambay ger arfordir Iwerddon tua diwrnod ar ol gadael Lerpwl.

Roedd hi'n dawel iawn y prynhawn hwn, y tawch yn cynyddu, tomenydd Elidir fel crwbanod enfawr, er efallai bod yna amryw o ddringwyr yn crafangu ar greigiau'r Glyder Fawr o gwmpas Pont y Gromlech.

Dim defaid yn unlle a'r caeau porthiant fel ynysoedd gwyrddlas wedi eu hamgylchynu gan greigiau miniog fel glasiers mewn môr o binwydd tywyll.

Sail nifer o greigiau gwyrdd a phiws, creithiog fel cestyll adfeiliedig, yng nghanol y tywod sydd ymysg creigiau hynaf Cymru, yn dyddio o'r cyfnod cyn Gambriaidd.

Y mae ychydig o rai mathau o greigiau (megis calchfaen) yn toddi mewn dŵr, ac y mae afonydd yn toddi tir hefyd drwy broses a elwir yn gerydu.

Os mai eich syniad chi o daith ddaearegol yw i fynd allan i edrych ar haenau gweddol amlwg o greigiau er mwyn dod o hyd i olion deinosoriaid, yna dyma'r daith i chi!

Yn fuan wedi i greigiau Blaen Rhestr ymddangos ar y dde bydd y ffordd yn plymio'n sydyn i ryw bantle cyn ailgodi'n serth yr ochr draw; dyna Fwlch y Clawdd Du.

Dewisodd fynd lawr ar un ochr i'r bachgen rhag ofn i greigiau ddigyn ar ei ben ef.

Mae'n bosib i chi gerdded ar hyd y glannau o gwmpas Bro Gþyr gan gael eich hudo i fynd o gwmpas un trwyn, i mewn i fae arall, ac yn y blaen tan i chi gerdded milltiroedd heb sylweddoli wrth ryfeddu at yr holl greigiau diddorol.