A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.