Gresynu oedd Ms Clwyd, ar ran 'miloedd o Eisteddfodwyr', ein bod wedi ymosod ar Mr Hague, 'blondyn bach del efo gwên ddigon o ryfeddod', rhinweddau gwleidyddol sylfaenol yn yr oes sydd ohoni -- well spotted Hefina.
Go brin y gellid meddwl am dîm mwy cymwys na'r un a fu'n gyfrifol am sicrhau bod gwaith yr Athro Jones ar y testun pwysig a diddorol hwn yn gweld golau'r dydd o'r diwedd, er na ellir ond gresynu iddynt aros ugain mlynedd cyn mynd â'r maen i'r wal!
Gŵr hynaws dros ben, ac yn gresynu nad oeddwn i wedi gofyn am gar i'm cludo yno (roeddwn i wedi cyrraedd mewn rickshaw-peiriannol, ac rwy'n dechrau arfer gweu i mewn ac allan dan draed loriau a bysiau).
Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .
Nid gresynu at ddiflaniad ffordd o fyw y mae ychwaith; mae'n rhy gyfarwydd â'r hanes am yr amodau gwaith a'r peryglon.
Y mae'r llywodraeth yn gresynu nad yw plant yn cael eu gwreiddio'n effeithiol yn Shakespeare a Milton, Keats a Tennyson, Jane Austen a Dickens.
'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.