Ni alwyd Greta'n 'slwt' erioed gan Paul, ac nid yw'r awdur chwaith mor nawddoglyd wrth lunio'u golygfeydd caru.
Wna i byth anghofio wyneb Helen Mirren (rhyw gymysgedd rhwng wyneb Greta Barbo ac wyneb Humphrey Bogart) wrth iddi sylweddoli bod ei gūr a thad ei phlant yn dreisiwr ac yn llofrudd.
Nid yw baby a kid yng ngeirfa Paul Greta, Lisabeth, na Harri; mae golygfeydd y sgrin fawr yn o bell o'u meddyliau hwy.
Ac er bod Paul, y Sais, yn dod o dan lach yr awdur a Harri, ac weithiau'n fflipant ei sylwadau ynglŷn â'r Cymry, mae ei driniaeth ef o Greta yn wahanol iawn i driniaeth Wil o Sali, a thriniaeth Terence, ar un adeg, o Sheila.