Mae'r bladur, y gribin, a'r bicfforch yn segur ers tro, ac mae'r trowr rhaffau, y stric a'r corn grit ar gyfer hogi yn rhan o gelfi crôg ystafell y gegin erbyn hyn.
Edrychwch yn ôl i gyfeiriad Pen-yr-ole-wen a throwch yn araf yn eich unfan draw at y Tryfan, "llofrudd o fynydd" chwedl Gwilym R Jones, heibio dannedd y Gribin at unigeddau'r Glyderau a'r Garn.