Rhoes llyfr fel Rebecca Riots (David Williams) gyfle iddo dynnu sylw at gyfraniad Thomas Emlyn Thomas, y gweinidog Undodaidd o Gribyn, a'r gŵr a fu'n 'rebel dros ryddid y werin'.
Gan fod Yr Ymofynnydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth cylchgrawn hanes y mudiad, byddai bywgraffiad ambell arwr, fel Thomas Emlyn Thomas o Gribyn a Gwilym Marles, Llwyn, yn cael llenwi'r misolyn ac ni allai neb a ddarllenodd y rhain fethu â dilyn y thema ganolog a theimlo'r ergydion sylfaenol.