Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

griddfan

griddfan

Ac yn Ffrainc heno mae'r gweithwyr gwynion yn griddfan dan sbeit y cyfalafwyr y maen'hw'n gwneud modrwyau iddyn'nhw, a tai, a cheir modur, a gwin; ac yn yr Eidal heno, ac yn y Sbaen heno, ac yn Lloegr heno, ac yng Nghymru heno.

Ffoniodd cymydog atom ni'r meddygon yn y dref Gwyddai hwnnw fod Bob yn gorfod gwrando ar ei frawd yn griddfan ddydd a nos, a bod ei gorff yn berwi o chwys drwy'r amser.

Ceisiwyd gwneud John mor gyffyrddus ag y gellid ar lawr wrth y tân a phan gyffyrddai ei draed â rhywbeth gwaeddai dros y tŷ Yr oedd y plant mewn sobrwydd yn methu â deall beth oedd ar John heb ddim byd i'w ddweud wrthynt ond galw geiriau mawr a griddfan.

'Yn America heno, mae'r bobol dduon yn griddfan dan y deddfau gwahanu; ac yn Ne Affrica heno; ac yn Kenya heno; ac yn Nigeria heno.