Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grio

grio

Does dim angen iti grio.

Ond os ydi'ch synnwyr digrifwch chi rywbeth yn debyg i f'un i, y peth sy'n fwyaf tebygol o'ch cynhyrfu chi i chwerthin ydi gweld rhyw unigolyn bach yn y gynulleidfa sy'n edrych fel pe bai o ar dorri allan i grio unrhyw funud.

Cynheuodd olau'r lamp a dehcreuodd grio'n ddistaw.

Trodd Carol y radio i ffwrdd yn sydyn, a pharodd y distawrwydd annisgwyl i'r ddau fachgen ddychryn digon i roi'r gorau i grio am funud.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi mewn poen, fe allwch arbed oriau o aros yn lle'r meddyg drwy eistedd i lawr a chael sbloet iawn o grio.

Bigw annwyl, wyddwn i ddim p'un ai i chwerthin neu grio.

Pwy a wêl fai arno am grio a chnadu a'r fath giwed yn ei biwsio?

Daliai'r ferch i grio a dyma'r trên yn chwislo a chychwyn am Ddinbych o ganol y ffarwelio mawr.

mae sbloet o grio, meddai, yn para tua chwe munud ac yn digwydd, ran amlaf, rhwng saith a deg yn ystod y min nos.

dro'n ôl, mi fu+m i'n sôn am grio a holl oblygiadau'r ymarferiad tamp, anghynnes hwnnw sydd, ond inni dderbyn barn yn arbenigwyr, yn llesol i gorff a meddwl.

dechreuodd huw grio 'n ddistaw bach, ond peidiodd pan ddywedodd gethin fod rhaid iddynt redeg bob cam i swyddfa 'r heddlu.