Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gristnogol

gristnogol

Roedd hi'n weithgar iawn yn ei chapel, sef Bethania, ac mi gadwodd fflam ei ffydd Gristnogol tan ddiwedd ei hoes, er gwaetha'r cyfnodau mynych o afiechyd.

Ond wedi i Awstin ddod i'r gorllewin, i'r rhanbarth a elwir yn Gymru heddiw, canfu bobl a oedd yn parhau i ymarfer y ffydd Gristnogol er ei bod yn gwahaniaethu llawer mewn dull a ffurf oddi wrth yr hen ffurf Ladinaidd.

Milwyr Rhufeinig oedd y cyntaf i ddod â'r grefydd Gristnogol i Gymru.

Lleihau urddas dyn a thlodi ei ddynoliaeth a wna'r agwedd hon at gymundodau dynol, ac i'r graddau y gwneir hyn y mae'n wrth-Gristnogol.

Yn wyneb y fath ansicrwydd ynghylch y dyfodol nid yw'n syndod fod rhai o'r eglwysi hynny sy wedi goroesi yn Rwsia yn dechrau denu addolwyr unwaith yn rhagor, yn ogystal ag ymwelwyr, er na ŵyr trwch y bobl fawr ddim am y ffydd Gristnogol.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

Ond gwelai'n gliriach nac erioed mai'r iaith Gymraeg yw'r trysor hynaf a gwerthfawrocaf sy gennym ar wahan i'r Ffydd Gristnogol, a gwelai ei bod mwyach yn gyflym ddarfod o'r tir.

Gellid barnu hefyd iddo dderbyn magwraeth Gristnogol drwyadl.

Roedd Edna yn nodedig am ei ffydd Gristnogol ddofn a chadarn a amlygwyd ganddi yn ei gweithgarwch yn ei hen gapel Saron am ddeugain mlynedd a mwy.

Ychwanega ei fod wedi dwyn croes ein Harglwydd Iesu Grist ar ei ysgwyddau (sef llun neu batrwm ar ei darian yn ôl pob tebyg) am dri diwrnod a thair noson, a dyma'r enghraifft gynharaf o'r syniad am Arthur yn amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol.

Poeni'r oedd hefyd, fel y cyfeddyf yn ei hunangofiant ac fel y tystia dyneiddiaeth amrwd y fersiwn cyntaf o 'Iesu Grist', am wirionedd y ffydd Gristnogol.

Rhoes ganiatâd iddynt bregethu'r ffydd Gristnogol ac i droi pobl i'r ffydd honno.

Llond dwrn yn unig a welai Gymru yn erbyn cefndir o athroniaeth Gristnogol am ddyn a chymdeithas.

Dechreuodd fynd er mwyn cludo Beiblau a llenyddiaeth Gristnogol i'r Cristnogion yno.

I'r ddeuddyn hynny y cyfrennid iddynt ddawn Duw y rhoddwyd yn llawn y fraint o fwynhau ' oes winwydd mewn gras union'.Er cryfed ydoedd yr elfen dylwythol ac er mor anodd ydoedd ymwrthod ag awdurdod y tad dehonglid yr ystad briodasol yn bartneriaeth Gristnogol, a phywsleisid yr angen am undod o fewn y briodas honno a allai adlewyrchu undod y wladwriaeth dan y Goron.

Un dydd Gwener ar ddiwedd darlith olaf y bore dyma JE Daniel, ar ôl gorffen darlithio ar Athrawiaeth Gristnogol, yn dod ataf ac yn gofyn imi fynd gydag ef y noson honno i annerch cyfarfod y Blaid yn festri Capel Maes y Neuadd, Trefor.

Hynny yw, y ddau beth a'i gyrrai oedd ei sêl Gristnogol a'i frwdfrydedd ysol dros y Gymraeg.

Daeth i ffydd Gristnogol a theimlodd arweiniad i weithio dros heddwch drwy greu baneri ar gyfer gwahanol ymgyrchoedd.

Sail eu gwrthsafiad yn ddieithriad oedd naill ai basiffistiaeth Gristnogol neu egwyddorion sosialaeth gydwladol.

Dechreuodd hefyd weithio'n wirfoddol gyda 'Tyrfa'r Merched', a oedd yn rhan o'r Genhadaeth Gristnogol.

Hyd yn oed y bobol sy'n y Poplar." Y Neuadd Ddirwestol yn y Poplar, ar y gornel rhwng y Stryd Fawr a Stryd Sophia a ddefnyddiai'r Genhadaeth Gristnogol, fel y gelwid hi ar y pryd.

(c) Diwinyddion penodol Gristnogol.

Gwelsom fod traddodiad eglwysig cynnar yn cofio am Arthur fel amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol, ond ymddengys fod hynny wedi ei roi heibio erbyn cyfnod y Bucheddau.

Yn ei anerchiad i'r Gymanfa yn y Rlhyl ar y testun 'Peryglon yr Eglwys yn Wyneb Her y Byd', soniodd am y peryglon o gyfeiriad meddyleg, athroniaeth, gwleidyddiaeth ac o gyfeiriad crefydd ei hun, yn arbennig "ysbrydegiaeth a Gwyddoniaeth Gristnogol".

Gellir cymryd hyn i olygu bod angen sgrifenwyr Cristnogol mawr - megis Pantycelyn - sy'n amlygu pydew bywyd dyn yng ngoleuni cyfiawnder Crist, ond hefyd sgrifenwyr gwrth-Gristnogol sy'n gwrthod Crist ac yn - dewis pechod.

Nid yw'r meddwl anianol yn agored i ystyriaethau a chymhellion sy'n deillio o'r ffydd Gristnogol.

Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.

Un gred gyffredin yw fod gosod penglogau o dan loriau eglwysi yn fodd i atal atsain, ond y mae'n bur debyg mai ymgais crefyddwyr yw'r gred hon i geisio cyfiawnhau hen arfer gyn-Gristnogol.

Rhaid inni gofio bob amser i'r efengylau gael eu hysgrifennu i fynegi ffydd y Cristion yn ei Grist a hefyd i gyflwyno'r genadwri Gristnogol mewn dull a fyddai'n ennill diddordeb ffafriol y byd Rhufeinig.

Mewn un frawddeg portreadir Arthur fel amddiffynnydd y Ffydd Gristnogol trwy honni ei fod wedi dwyn delw y Forwyn Fair ar ei ysgwyddau, a'i fod wedi gwneuthur lladdfa enfawr o'r paganiaid trwy rym Ein Harglwydd Iesu Grist a'i Fam.

Codai egwyddor 'reserve' yn naturiol allan o astudiaeth y Tractariaid o weithiau'r Tadau Eglwysig, sef cadw'n ôl y gwirionedd mwyaf cysegredig a dirgelion y Ffydd hyd nes y byddai'r 'dysgwyr' yn y Ffydd Gristnogol wedi gorffen eu cwrs o hyfforddiant ac wedi'u dangos eu hunain yn gymwys i'w derbyn.

Fel y ffyrdd a dorrwyd uwchben Cwm Prysor, a'r ffordd a naddwyd drwy graig Oakley Drive, mae ar yr eglwys Gristnogol hithau angen dod o hyd i ffyrdd newydd i drosglwyddo ei neges.