Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

groen

groen

Neidiodd o'i groen bron pan ehedodd aderyn yn swnllyd o'r goeden wrth y wal a chwarddodd yn uchel wrth ei weld ei hunan yn gymaint o fabi.

Nid oedd yn rhaid i'w lygaid duon ei hanwesu ac i'w gyhyrau wingo dan ei groen tywyll pan fyddai'n rhwydo na theimlai hi ei gwaed yn byrlymu yn ei gwythiennau a'i chalon yn chwyddo.

Ceisiodd Hector groesawu brwdfrydedd y gwynt llym, gan obeithio magu lliw haul, neu, o leiaf, liw tywydd ar ei groen tyner.

Trodd yn ei ôl o'r diwedd i ddiddosrwydd yr ogof a chanfod y Cripil yn gorwedd ar ei hyd ar ddarn o groen anifail o flaen tanllwyth.

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

'Ffraeo nid dadlau', pwysleisiai Gwyn, 'dyn oedd o wedi graddio mewn cymdeithaseg a dim chwilfrydedd yn agos i'w groen o'.

Rhwygai hon ei groen yn giaidd, ac aeth yn fwy anodd iddo barhau i afael yn dynn ynddi.

Nid yn gymaint Banana Republic, ond gweriniaeth groen banana.

Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).

Er nad oedd ond cymedrol o ran maint, 'roedd ganddo groen eliffant, ystyfnigrwydd mul a thymer y byddai'r mwyaf eofn yn gwaredu rhagddi.

Roedd ei groen yn llyfn a chlir a symudai fel dyn a chanddo gyhyrau iach iawn.

Roedd o tua phump ar hugain, mor dal â chre%yr glas, yn ddwys ac yn meddu ar groen swyddfa.

O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.

Mae pob elfen ym mioleg creadur - sut y mae'n datblygu wrth dyfu, lliw y llygaid, math o groen, neu faint crafanc anghenfil - wedi ei chynrychioli gan gyfuniad o un neu fwy o unedau gwybodaeth yn y DNA.

Aeth y rhaglen ddogfen dan groen y cymeriad y tu ôl i'r chwedl.

Oedd, roedd Stuart wedi dysgu lle'r oedd 'i le fe fel creadur du 'i groen, a chael 'i atgoffa ohono bob tro'r âi i fyd yn gwynion tu fas i ardal y docie, neu pan ddâi rhywun o'r tu fas i lawr i'r clinig plant neu i ymweld ag Ysgol Mount Stuart.

Roedd Meic fel pe bai wedi camu i mewn i groen person arall.

A oes rhywrai'n cofio amdano mewn dosbarth nos ym Mhreselau ac yntau wedi'i wlychu at ei groen, yn darlithio yn ei drowsus (a'i grys yn sychu ar wresogydd)?

Dwi am drio 'ngora' i grafu dan groen y ddelwedd yn ystod y misoedd nesa'.

Glynai ychydig gudynnau o wallt gwyn sych i groen ei ben, fel blodau gwyllt yn ymladd am eu heinioes ar graig foel.

Mae'n siwr ei fod e'n dân ar groen tin y prifathro 'co sy 'da chi.

Llyfai groen Alphonse yn arafa gofalus heb gymryd fawr o sylw o Louis.

Does 'na ddim smic mewn theatr os ydy'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond os nad ydyn nhw, mae nhw'n rhyw wingo yn eu seddau ac yn pesychu,' ac er ei bod yn cael budd mawr o drafod yr amrywiol gymeriadau y mae'r cyfarwyddwr yn eu hanfon ei ffordd hi gyda'i chyd-actorion, aiff Judith yn ôl at ei greddfau ei hun er mwyn mynd dan groen y cymeriad.