Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

groesfan

groesfan

Tawodd y dyrfa wrth weld hyn gan ildio'r groesfan a'r gatiau i'r awdurdodau erbyn naw o'r gloch.

Picton Philipps â'r orsaf a'r groesfan ddwyreiniol tua dau o'r gloch, nid oedd agwedd y torfeydd mor fygythiol ag i hala ofn arno.

Dyma fe 'nawr yn gorfod sefyll wrth groesfan ddwyreiniol Llanelli cyn mynd i mewn i'r orsaf am arhosiad arall o ddeng munud.

Roedd milwyr Iran ym mhob man oherwydd yn ystod y rhyfel rhwng y ddwy wlad roedd Iraq wedi ceisio defnyddio'r groesfan ar fwy nag un achlysur er mwyn cael mynediad i Iran.

Aeth yn ôl i'r dref fel y daeth trên arall ac ynddi saith cerbyd a llu o deithwyr i'r groesfan.

Picton Philipps ar yr Uchgapten Stuart i ddanfon mintai fwy o filwyr i'r groesfan, ac felly dyma Gatrawd Caerwrangon yn brasgamu ymlaen a'u bidogau wedi eu gosod ar enau'r drylliau.

Erbyn dau o'r gloch y bore, caed heddwch a distawrwydd ar y groesfan.

CYFLWYNWYD llythyr y Rheilffyrdd Prydeinig yn rhoddi manylion am y posibilrwydd o gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Gyda charfan o osodwyr plât yn y blaen, rhuthrodd y picedwyr at yr heddlu a'r milwyr, gan lwyddo i ailfeddiannu'r groesfan Gofynnodd y Capten Burrows i Thomas Jones ddarllen y Ddeddf Derfysg, ond-gwrthododd Jones gan nad oedd y trais yn ddigon i gyfiawnhau gwneud hynny.

Ymdeithiodd bron hanner cant o blismyn i'r groesfan, gyda gosgordd o filwyr.

Cyrhaeddodd trên llythyron gyffiniau Llanelli am ddeng munud wedi naw y nos ond rhwystrwyd y groesfan yno gan fil a hanner o bobl, gan gynnwys llanciau a oedd wedi dryllio ffenestri'r blwch arwyddo gerllaw.

Yn sicr, ni allodd yr Arolygydd Rogers, y Rhingyll Britten a rhai plismyn eraill sefyll yn y bwlch pan aethant i'r groesfan yn fuan ar ôl deg o'r gloch.

'Ta waeth, ar y diwrnod arbennig yma, ddês i adre o'r ysgol - hwn ydi'n nhy fi, gyda llaw - 'Heulwal', Stad Bryn Glas - jest heibio'r groesffordd a chyn cyrraedd y groesfan zebra.

Ymddengys i Thomas Jones lunio cynllun cadoediad, lle byddai'r ddau drên a gyrhaeddodd nos Iau yn cael mynd trwy'r groesfan, pe byddai'r milwyr yn cilio i'r orsaf am bymtheng munud.

(a) Croesfan Rheilffordd Merllyn, Criccieth CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio yr adroddwyd i'r Pwyllgor diwethaf ar fwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Oherwydd i garfan arall o bobl greu rhwystr ar groesfan Hen Gastell yn y pellter, arafodd y trên.

Ond yn y cyfamser, 'roedd pobl wedi tyrru i'r groesfan orllewinol.

(ii) Bod y Prif Swyddog Cynllunio i gadw gwyliadwraeth ar y datblygiadau ar groesfan Y Traeth, Porthmadog a'i fod i anfon llythyr at y Rheilffyrdd Prydeinig os na fyddai unrhyw ddatblygiadau yn cymryd lle yn y dyfodol agos.

Awgrymwyd iddynt y dylid codi wyneb yr ardd (yng nghornel y maes parcio gyferbyn â'r groesfan tren) ac i'w ddefnyddio fel lle parcio cerbydau ar gyfer yr orsaf.