Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

groeso

groeso

Caiff eu noddwr ei foli ganddynt yn y dull traddodiadol, fel y gellid disgwyl, ac y mae'r hyn a ddywedir ganddynt am ei groeso brwd a'i ddiwylliant yn arbennig o werthfawr o safbwynt astudio'r traddodiad nawdd.

Cafodd JE groeso brwd gan aelodau'r Blaid yn Arfon, llawer ohonynt yn gymdeithion coleg iddo.

Theatr Gwynedd Estynnodd Ellen ap Gwynn groeso cynnes i bawb.

Rwy'n siwr y cawn ni groeso cynnes yng Nghymru.' A'r geiriau hyn ffarwelia'r milwr â ni i gychwyn ar ei fordaith o Harfleur am Gymru.

Daeth y ci defaid butra a welodd JR erioed i ben y bwlch - nid ei fod o wedi gweld llawer o gŵn defaid budr - ac i ddangos ei groeso neidiodd ar fonet y car.

Cafodd groeso cynnes ond tawel rhag i'r Coraniaid glywed.

'Bydd yn neis i'w chwarae nhw a gobeithio y bydd yna groeso iddyn nhw ar y Vetch.

Ys gwn i sut groeso gawn i yng Nghymru petawn yn mynd at reolwr banc a gofyn iddo fy nghynorthwyo i werthu ticedi!

Estynnwn groeso pwyllog i ddau fesur eleni, y naill gan y Llywodraeth, y llall gan Gomisiwn y Gyfraith, a ddylai gynnig gwell amddiffyniad yn y dyfodol.

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Bet Morris o Sefydliad y Merched,Meirionnydd.

Cyfres achlysurol newydd sy'n croesholi rhai o wynebau cyfarwydd y Gymdeithas. Yn gyntaf, rhowch groeso i Rocet, ugeinfed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

Cyrraedd Frisco yn ddiogel i groeso mawr gan ei fodryb a oedd yn byw yn y dref, a daeth llawer o'i ffrindiau i'r llong.

Fe ga i groeso mawr gan Cadi'r gath pan fydd hi'n arogli'r pysgod yma.'

Ni bu raid iddo bryderu yn hir oherwydd, fel y camai dros y trothwy,cafodd groeso mab afradlon.

Ei groeso i'r Chwyldro Ffrengig a barodd i Edmund Burke sgrifennu ei Reflections.

Pickering, cadeirydd cangen Aberconwy groeso i'r aelodau.

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

Estynnwn groeso cynnes i Mrs Evans ein Prifathrawes newydd ac i Mrs Joan Griffith yn yr Ysgol Gynradd.

Cawsant groeso gan yr arolygydd, Mrs Gwenda Friebel.

ar ôl ei siomi yng ngwlad ei enedigaeth, trodd david hughes ei wyneb tua'r cyfandir ; aeth i ffrainc yn gyntaf, lle cafodd groeso yn syth.

Yr oedd i'r Herald groeso arbennig ymhlith y Rhosiach oddicartref.

'Dwi wedi cael y fath groeso yma o'r dechrau,' meddai.

Ond ni ddylai hyn greu'r argraff nad oedd groeso i Biwritaniaeth yn Llyn.

Dechreuodd y bobol chwalu gan adael fesul un a dau, wedi diolch yn gynnes i'r tafarnwr am ei groeso.

Yn amlach na pheidio rhoddai Powell fwy o groeso i ateb anghywir a oedd yn ffrwyth meddwl neu ddychymyg nag i ateb cywir confensiynol a di-fflach.

Pan welodd Llwyd hwy carlamodd tuag atynt gan weryru ei groeso.

Ar yr un pryd, mae yna bryder y gallai gormod o drefniadau diogelwch wneud yr ysbytai'n oeraidd a di groeso.

Fe gafodd ei dwy nofel flaenorol, Fory Ddaw ac Adlais, groeso brwd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ac yn bendant fe gaiff y nofel hon yr un croeso.

Yn amlwg cafodd Dafydd Iwan groeso gwych ond yr oedd hi'n noson lwyddiannus i Ysbryd Chouchen, au caneuon sydd, erbyn hyn, i'w clywed yn aml ar Radio Cymru.

Estynnwn groeso adre i'r teulu i Benlon.

cawsant groeso yr un mor frwd ar ôl iddynt gyrraedd frankfort.

Mae i chwi groeso calon, yn siŵr." "Mae hi'n drît i Anti Lw, on'd tydi, Anti?" "Mae gŵydd mor flasus, wrth gwrs," atebodd y foneddiges honno dipyn yn fisi, "ond mae tyrci'n fwy tendar.

Mae'n well i Nipon a gymerwyd yn garcharor gael ei ladd yn hytrach na dychwelyd i'w wlad." Ar ôl meddwl am foment mentrais innau ateb, "Bydd yna groeso i'r carcharorion Prydeinig i gyd pan ânt adref." Yr oedd yn amlwg oddi wrth ei wedd nad oedd yr ateb hwn yn ei blesio'n fawr.

Hyderwn ein bod wedi cael y moddion gorau i roddi mantais i'r holl fyfyrwyr Cymreig i gyfarfod a'u gilydd yn Rhydychen; a gallwn sicrhau y caiff myfyrwyr newydd groeso calon, a doethineb profiad yr hen aelodau, a gŵyr myfyrwyr mor werthfawr ydyw hwn, ar eu dyfodiad yma.

Dyna'r rheswm paham y buwyd yn chwilio am ddulliau newydd o atgynhyrchu llyfrau a phaham y cafodd yr argraffwasg y fath groeso gorawenus wedi i ddynion ei darganfod a'i datblygu.

Roedd yna groeso arbennig o frwd i'r penderfyniad i wladoli'r prif ddiwydiant yng Nghymru, glo.

Dim llawer o groeso.

Ond unwaith eto roedd na groeso mawr i'r fersiynau diweddaraf gan y ddau plentyn.

Ymgynnull i wrando ar yr Adjutant yn traddodi araith o groeso i'r newydd-ddyfodiaid.

Dychmygai'r rhedeg penysgafn hyd lwybrau'r mynydd, y llawenydd o weld y tū o bell, yr edrych ymlaen at groeso mam ac at oriau o chwarae cyn noswylio.

Mae etto i ti groeso, Mae gwledd nefol yn aros am danat.

Yn ei araith groeso ar ôl cinio ganol dydd y diwrnod cyntaf, dywedodd y Maer na wyddai'n iawn beth oedd amcanion y mudiad yr oedd yn ei groesawu, ond ei fod yn credu y byddai'r mudiad yn gwneud gwasanaeth mawr i Gymru pe gallai beri i'r byd alw Brythons arnom yn lle Welsh: cawsai ef brofiad chwerw mewn busnes am fod yr un gair Saesneg yn enw ar y Cymry ac yn ferf a oedd yn golygu twyllo.

Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch tywod y de lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno.

"Cawson ni groeso gynnes yn Esquel a Threfelin ond wedi tridiau roedd yn rhaid symud ymlaen unwaith eto.

Cawsom groeso cynnes iawn am ddim ond sefyll ar y llwyfan.