Mynd yno, ac er nad oedd neb yn ein disgwyl nac yn gwybod dim oll amdanom, cawsom gyngor gan gapten i osod ein pabell gyda hwy, fel petaem yn ddau westai yn cael eu croesawu gan wr ty caredig, na wyddai am eu bodolaeth cyn hynny, i fwrw noson dan ei gronglwyd.
Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.
Praw digon digamsyniol o fri unrhyw noddwr ac o fywiogrwydd llenyddol ei drigfan yw fod beirdd wedi ymryson am le o dan ei gronglwyd.
Amlygir hynny yng nghwpled Siôn Mawddwy sy'n tanlinellu'r cyd-fyw diddan rhwng gŵr a gwraig a thad a mam dan yr un gronglwyd.
Cadwai'r t yn lân a phrydferth, ac yr oedd ei lletygarwch yn ddiragrith i bawb a ddygid gan Abel o dan ei gronglwyd.