Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

groniclo

groniclo

Goleuodd gannwyll wedyn gan barhau i groniclo yn y memrwn.

Ond o groniclo ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw fe geir mai'r hyn sydd bwysicaf yw, nid ei dylanwad politicaidd cyffredinol (oblegid bychan ydoedd) ond twf ei syniadau a'r modd y ceisiodd ei harweinwyr lunio a diffinio safbwynt ac agwedd Gymreig tuag at argyfwng y dydd.

Rhaid imi groniclo profiad dieithr a ddaeth i'm rhan wedi inni gamu eto i'r goleuni a'r heulwen.

Y mae awydd afieithus yr awdur i groniclo hanes ysgeler Wil yn creu rhyw amwysedd gogleisiol ym meddwl y darllenwr.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.