Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grwn

grwn

Weithiau byddai'n darllen o Lyfr Del neu Lyfr Nest, neu weithiau o gyfrol dreuliedig o Chwedlau Grimm, a'n llygaid ninnau'n grwn dan arswyd 'waeth faint mor aml roeddem ni wedi clywed y stori o'r blaen.

Er enghraifft, wrth aredig byddai John Lewis yn grwn ac yn gampus o'ch blaen fel coeden braff ar yr tir.

Yno'n unig y bu 'i fyd yn grwn gyda mwy o blant fel fe nag o rai gwyn.

Nid yw o bwys os bydd achosydd yr ymwybyddiaeth hon yn sefyll yn grwn o'm blaen ar lun dyn; ni bydd ond fel cysgod nes i'r ddau John arall ymddangos gerbron llygad fy meddwl.

Sylwch fel y mae'r holl graig noeth a welwch wedi ei llyfnhau a'i gwneud yn grwn fe pe tai wedi cael ei rwbio â phapur tywod.

Gwell, efallai, fyddai neilltuo'r tŷ gwydr ar gyfer tomatos a thyfu'r cucumerau grwn mewn rhych y tu allan.

Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.

Yn hyn o genhadaeth mae'r cylch yn grwn: y cof cyntaf sydd gennyf i o BLJ yw'r cof amdano yn Ystafell Gymraeg Coleg y Gogledd yn arwain cylch trafod llenyddiaeth a gododd ef ei hun; y mae yn ei rifyn olaf o Daliesin gerddi a stori%au byrion gan raddedigion newyddaf y Gymraeg.

Fe roddai hi'r byd i gyd yn grwn am gael neidio i un ohonynt a mynd ar wib am y gorwel yn lle cael ei hangori fel hyn ddydd ar ôl dydd wrth wely ei nain.

Pe baech yn archwilio'r afon yn fanylach, byddech yn gweld bod unrhyw gerrig rhydd neu gerrig mân sy'n gorwedd yn y sianel hefyd yn grwn.

Roedd ei thoracs yn grwn hefyd, ae mor ddu ag eirin tagu.

Roedd y fuwch yn y beudy yn grwn fel eliffant ac ar ben ei hamsar ers pythefnos ac roedd o wedi gweld mwy ar honno yn y pythefnos dwyth a naga welodd ar ei wraig 'rioed!