Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grwt

grwt

"Rwyt ti'n siarad fel Methodsyn nawr, grwt!" atebodd.

A phobl yn 'i hysio mas o'r siope pan oedd e'n grwt os bydde fe a'i ffrindie'n crwydro o amgylch i weld beth oedd 'na.

Yng nghwmni ei ewythr Owen yr aeth Watcyn Wyn i'r pwll glo i ennill ei damaid am y tro cyntaf, ac yntau'n grwt wyth mlwydd oed.

Fe alle rhyw grwt fel fi, hyd yn oed, weld hynny.

Ar daith y bu er yn grwt, weithiau ar daith troed, weithiau â'r dychymyg.

Y tro diwethaf y clywais yr opera, yr oeddwn yn grwt dwy ar bymtheg, a chefais y fraint o'i gweld yn cael ei pherfformio yn yr Opera yn Paris.

Wy i 'di laru ar fod yn grwt da; cael mwy o gymeradwyaeth na neb arall Ddydd Gwobrwyo am fod crwt bach du 'di gwneud mor dda mewn Hanes, nid yn y chwaraeon arferol.

Pan oeddwn i'n grwt ar Gefnbrynbrain ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd o leiaf dri gŵr yn y pentref a gadwai filgwn, a Dai Milgwn oedd ein henw ar un ohonynt.

Dyn y pwll nofio'n dod i Ysgol Fitzalan i achwyn wrth y prifathro 'beutu Sandy a fi; ein bod ni 'di pigo ar ryw grwt bach gwantan - babi mami - o blith y crachach.

'A beth yw hwnnw, grwt bach?' gofynnodd Jini'n ddirmygus.

Rwy'n dewis cofio noson o'r fath a'r stori a adroddid pan oedd Dic yn grwt anfoesgar deuddeg oed, a minnau'n ferch bedair ar bymtheg hunan ymwybodol ac awyddus, pan oedd gennym ddwy forwyn, sef Gwladys - yr orau a fu gyda ni erioed, ac sy'n dal i ddod yma i'n helpu ar adegau arbennig megis cynhaeaf a chneifio a dyrnu - a Meinir, a briododd â Morus Ddwl a chael pump o blant ganddo, tri yn fyw a dau yn farwanedig.

Dere'n gloi, grwt!