Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gryf

gryf

Gwelais gerflun o'r llanc Dafydd fab Jesse Ban un o'r meistri, yn gryf a hardd o gorff, a dyna'r argraff a adawai Phil ar bawb a'i hadwaenai.

A'r syndod yw fod y teimlad hwn yn dal yn gryf ac wedi ysbrydoli rhai cyflogwyr yn ddiweddar i wahardd eu gweithwyr rhag siarad Cymraeg yng ngwydd y di- Gymraeg.

Eithr er iddynt wrthsefyll y drefn Seisnig yr oedd dylanwad Seisnigrwydd yn gryf yn eu plith, ac ni ddylid synnu at hynny.

Does dim dwywaith nad oedd y geiriau cryfion a ddefnyddiodd Symons wrth ddisgrifio'r ardal wedi rhoi ysgytwad go gryf i bawb a'u ddarllenodd ac a'u clywodd.

Oedi'n hir yn eu blagur a wnaethai dail y coed tra chwythai gwyntoedd Mawrth yn gryf ac yn oer.

Mae ef yn argymell yn gryf y dylid rhoi cyflog penodedig i bob meddyg sy'n gweithio mewn ysbyty ac felly osgoi'r demtasiwn i 'or-drin' ei gleifion.

(Tarddodd y goel hon mae'n debyg yn y Dwyrain lle defnyddid ambare/ l a pharasôl gan frenhinoedd a breninesau.) Gall gweinyddesau mewn ysbyty dystio ymhellach pa mor gryf heddiw yw'r gred gan lawer iawn o bobl na ddylid cymysgu blodau coch a gwyn - mae'n arbennig o anlwcus.

Un o wrthwynebwyr y prosiect yw'r hanesydd lleol Dilwyn Miles a fu'n dadlau'n gryf nad oedd y siwrnai yn adlewyrchu'r sefyllfa yn Oes y Cerrig gyda'r cychod, er enghraifft, yn rhai llawer gwell na'r rhai a fyddai ar gael i adeiladwyr Côr y Cewri.

Maen nhw'n ofnadwy o gryf ac yn ddeallus iawn, fel chimpanzees ar y Ddaear, er faswn i ddim yn lecio cael te parti hefo nhw.

Gyda'r anian ysgolheigaidd a oedd mor gryf ynddo, ymroes i'r gwaith mewn ffordd eithriadol gydwybodol.

A ffermwyr a brynodd y mulod am bris teg, canys wele, yr oedd y mulod yn gryf a chyhyrog.

Nid peth newydd oedd gormes yma ac, oherwydd hynny, roedd grym traddodiad yn gryf.

gyda dau ddant blaen uchaf sy'n arbennig o gryf ar gyfer cnoi.

A chan mor gryf yw'r patrwm cwrteisi a ddatblygodd yn sgîl y gwaharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg, nid ydynt yn eu gweld eu hunain yn ymddwyn yn anghwrtais.

Ond pan fo'r tywydd yn sych ar haul yn tywynnu maen nhw yn gryf.

Roedd egni bywyd yn gryf yn y llygaid tywyll, a doedd dim rhwnc yn ei gwddf.

Yn ei waith diweddarach mae'n symleiddio ffurf i'w elfennau mwyaf sylfaenol, ac eto mae'r ymdeimlad o olygfa ar adeg arbennig - ar ddiwrnod gwlyb, gwyntog, niwlog, er enghraifft - yn arbennig o gryf.

Yma ac acw yn ei waith, fodd bynnag, mae nifer o sylwadau sy'n awgrymu'n gryf y byddai'n cytuno'n gyffredinol a safbwynt JR Jones ar y mater hwn.

Mae'r rhain yn gryf iawn, a rhaid eu gwanhau a dwr cyn eu defnyddio.

'Maen nhw'n gryf iawn ond bydd hi'n gêm galed.

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Roedd y tywydd yn eithaf ffafriol a hud y ffair a'r candi fflos mor gryf ag erioed.

Ond pan gafodd fyrddio'r llong o'r diwedd rhyfeddai fod creadur mor gryf a solet wrth y cei yn anesmwytho ar y mor agored.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Credir yn gryf erbyn hyn gan liaws o arbenigwyr seryddol y gall fod y blaned Mawrth fod wedi ei gorchuddio ar un cyfnod yn ei hanes â gorchudd cefnforol oedd yn gorchuddio o leiaf dair rhan o'i harwynebedd.

Bu'n gryf a heini nes cyrraedd ei bedwar ugain, ac er gwanio o'r corff, arhosodd yn feddyliwr hyd y diwedd.

Erys ein ffydd tros y blynyddoedd yn gryf mewn pobl fel Callaghan, Foot, Kinnock, Leo Abse, Nicholas Edwards a'u tebyg.

Creda'n haelodau yn gryf na roddwyd digon o amser i'r gwaharddiadau masnachol gael cyrraedd y nod o orfodi Iraq i dynnu allan o Kuwait.

"Yr ydych mor gryf ag y tybiwch eich bod", meddai, "Yr ydych mor gryf ag yr wyf finnau%.

Gwyddom mai'n ddiweddarach ar ei yrfa y cofleidiodd Penri'r golygiadau hynny ond hawdd credu mai yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yng ngholeg Peterhouse, Caergrawnt, y troes yn Biwritan gan mor gryf oedd y mudiad yn y Brifysgol honno.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd y dystiolaeth fod y model hwn yn anghywir yn gryf iawn, ac fe'i disodlwyd gan fodel a osodai'r haul yng nghanol y bydysawd.

Cerddi eraill: Cystadleuaeth hynod o gryf oedd hon a sawl un o Brifeirdd y gorffennol a'r dyfodol wedi cystadlu: Gwilym R. Jones, Edgar Phillips, J. M. Edwards, Dewi Emrys, Gwyndaf, Tom Parry-Jones, a William Morris a ddyfarnwyd yn ail.

Yr oedd y mudiad gwlatgarol yn gryf yng Ngalilea er gwaethaf neu oherwydd y cymysgedd hiliol a diwylliannol a oedd yno.

Roedden nhw'n llawer rhy gryf.

Mae'r Undeb yn credu'n gryf y dylai'r clafr barhau i fod yn glefyd sydd raid ei hysbysu i'r awdurdodau ac y dylai fod pwerau i rwystro symud defaid er mwyn gallu trin diadelloedd sydd wedi eu heintio.

O'n nhw'n eitha grymus yn y dechre ond yn y diwedd r'on ni'n rhy gryf iddyn nhw.

Pan nad oedd fawr ddim addysg Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, yr oedd yr Ysgol Sul yn dysgu miloedd i ddarllen yn ddeallus ac i fynegi eu syniadau a'u hargyhoeddiadau'n glir ac yn gryf.

Ond roedd y dŵr yn taro yn ei erbyn yn gryf wrth iddo gael ei dynnu trwy'r lli, a chollodd ei wynt yn fuan.

a gâf awgrymu ichwi y gellir amau'n gryf ddilysrwydd egwyddor tebyg i'r un yr ydych chwi sydd o blaid rhyfel amddiffynnol yn sefyll wrthi, ac na ellir ei gweithredu heb ei bod yn arwain o raid, fel canlyniad i hynny ac mor anochel â ffawd, i holl gamwedd ac erchylltra yr holl drefn ?

Roedd e mor gryf chwalwyd yr hen adeiladau yng nghanol tref Kotor yn llwyr.

Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.

Mae'r Cestyll yn gryf iawn pan fydd y ddau'n cael cyfle i weithio gyda'i gilydd.

'Roedd y coffi, fel y gwelsom yn gyffredin yn y wlad, yn gryf, a'r gwpan yn hanner llawn o raean.

Trueni na fedr Simon basio'n well gan ei fod yn gryf ac yn benderfynol wrth ymhyrddio ganol y maes.

Er mor gryf y bywyd Cymraeg hwn ni buasai, er pan ymgorfforwyd Cymru yn Lloegr, draddodiad balch o wrthsefyll y sefydliad Seisnig mewn unrhyw amlygiad ohono.

Roeddwn i'n ofni y byddai'r hen drwbl a gefais yn Lerpwl yn dweud yn f'erbyn hefo anffawd fel hyn, ond dywed y doctor fy mod yn syndod o gryf ac iach, a diolch i fywyd braf awyr-agored yr ynys y mae hynny, yn siwr i chi." Er hynny fe roddodd Dad ochenaid.

Roedd y golau mor gryf nes bod Meic yn gorfod codi ei law i gysgodi'i lygaid, a dyna pryd y sylwodd ei fod yn gwisgo maneg ledr drom, fel dyrnfol marchog canoloesol.

Aroglau môr a gwymon yn gryf, a'r deiliaid oedd yno yn uchel eu cloch.

"Dyna pam mae arogl mor gryf arno fo."

Rhaid, felly, o y bleiddgi'n ddewr ac yn gryf a dyna'r math o gi y bu'n ystyried ei ddewis am gyfnod.

Roedd y teimladau yn gryf iawn erbyn y diwedd, meddai Malcolm Allen, cyn-aelod o dîm pêl-droed Cymru.

Hynny yw, roedd yr angen i fod yn ddogmatig yn gryf ynddo, ac roedd cyflwyno fframwaith pendant, heb godi amheuon, yn cyflenwi'i angen am awdurdod dibetrus.

Yn y prynhawn, dewis y ffordd hawdd a dewraf i fyny'r llethrau, sef mewn car cêbl, a'i wifrau syndod o gryf yn llusgo'r wynebau chwilfrydig a'r boliau jeli i'r entrychion.

Penderfyniad y Gangen oedd newid banc ond yn gyntaf i gwyno'n gryf iawn i'r TSB.

Roedd y dramodwyr yn pregethu wrthyf o bulpud eu llwyfan, yn awgrymu'n gryf wrthyf fy mod yn rhy ddwl i ddeall negeseuon y ddrama ac yn fy nharo gyda gordd y bregeth.

Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.

Gallwch ddychmygu, felly, pa mor gryf ydyw.

Profodd byddin yr heddlu yn rhy gryf iddynt, ond pan oedd y seremoni yn dechrau ni allai neb na dim atal eu rhuthr i lawr y llethrau i dynnu'r pafiliwn i lawr a dinistrio'r seremoni.

Erbyn hyn yr oedd hyd yn oed yr ASau Cymreig yn gwrthwynebu bwriad Lerpwl, a dadleusant yn gryf yn ei erbyn ar yr ail ddarlleniad.

Heb feddwl eilwaith rwyt yn gweiddi: "Teimlaf yn gryf fel llew." "O anhygoel, anghredadwy o wir, gwir, gwir pob gair." Mae Eilir wedi gwirioni ar dy linell.

Sawra 'Middleton Murry a Chrefydd' yn gryf o'r pendantrwydd cenhadol a gyfyd o anesmwythyd, pan fo gŵr yn

Pan fo'r cymhelliant a'r ewyllys yn gadarnhol ac yn gryf mewn perthynas â'r iaith ac addysg Gymraeg, gwelir llwyddiant.

Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r Cynulliad weithredu o'r cychwyn cyntaf fel corff sydd yn dymuno ennill yr hawl i basio deddfwriaeth gynradd.

Yng nghystadleuaeth y merched profodd Anna Kournikova yn rhy gryf i Sandrine Testud o Ffrainc.

"Ymladdodd y goeden yn erbyn y gwynt er bod hwnnw yn llawer rhy gryf iddi.

Yr oedd anufuddhau i'r esgob yn sawru'n gryf o wrthryfel yn erbyn y llywodraeth.

Yn y diwedd, beth bynnag, daeth safle'r iaith Tsiec yn ysgolion Awstria yr un mor gryf â safle'r Roeg yn Nhwrci.

Hynny yw, nid awgrymu pa mor fregus yw gorchudd gras y mae Cradoc, ond mor gryf ydyw - a chaniata/ u fod "gras" a "chariad" fel ei gilydd yn cynrychioli agwedd dosturiol Duw at ddyn yn ei ing.

Y mae'r actio'n gryf ac yn glawstrophobig.

Yn yr achos hwn, yn fwy na'r un arall brofais i, dwi'n credu'n gryf bod hynny'n wir.

"Os nad wyt gryf, bydd gyfrwys" medd yr hen air - ac felly y bu hi, ac fe'i trechais yn llwyr yn y bumed rownd.

Yr un fu'r stori hyd yn oed pan fyddai'r brotest yn gryf ac yn unol.

I grynhoi, mae rhinweddau'r llyfr hwn yn pledio'n gryf tros ei gyhoeddi.

Yno yr oedd awelon hunanlywodraeth a democratiaeth yn chwythu'n gryf.

Ymhellach, dadleuwn yn gryf nad yw'n ddigonol i'r iaith Gymraeg gael ei chyfyngu o fewn termau un Pwyllgor Pwnc yn unig.

Mae hyn yn egluro pam na fu'r gefnogaeth mor gryf yn ngorllewin Montreal a chanol y ddinas.

Byddai, mi fyddai'r plant yn tyfu'n gryf, yn cael eu hysgol yn rhad ac am ddim, ac yng ngolau'r addysg rhad hwnnw'n tyrru'n eu holau i chwyddo cyfoeth, aelodaeth, a dylanwad y capel.

Fe allwn ddychmygu cymaint mwy yw eu hawydd i warchod yr eliffant a fu yn sumbol mor gryf o drachwant dyn yn treisio'r bywyd gwyllt.

Dyma ddadl gryf dros leihau y gwario ar arfau a defnyddio'r arian i ddibenion gwell megis cynorthwyo gwledydd y Trydydd Byd.

Tynnodd hi â'i holl nerth, ond roedd y gadwyn yn rhy gryf.

Gan fod y reddf i chwilio am deth mor gryf mewn anifail sugno, ceir cryn drafferth weithiau i gael llo i ddygymod ag yfed o'r bwced.

Mae'n amlwg fod rhai o gwsmeriaid James Herriot yn credu'n gryf yn rhinweddau'r halen-chwerw.

Er na feddyliais erioed am Awstralia fel gwlad lle mae cywirdeb gwleidyddol yn rhemp y mae hi, maen ymddangos, yn wlad lle mae ffeministiaeth yn gryf.

argaeau a choedwigaeth, fod yn gryf.

Yr oedd realiti y byd i ddod yr un mor gryf iddo â realiti y byd oedd yn byw ynddo wrth ysgrifennu - yn wir, yr oedd yn gryfach, gan mai cysgod yn unig oedd y byd hwn.

Os ydych chi fel aelod o'r Gymdiethas Frenhinol er Gwarchod Adar yn teimlo'n gryf am yr argymhelliad hwn,rydym yn eich gwahodd i gysylltu â: 'Darnio'r CGN', Bryn Aderyn, The Bank, Y Drenewydd, Powys.

Gallwn grynhoi felly trwy ddweud fod yr eglwysi'n sefydliadau neilltuol gryf yn Eifionydd ac yn ddylanwad grymus iawn ar fywydau'r trigolion.

Yr oedd yn rhaid bod yn gryf fel ceffyl i allu cyflawni gofynion gweithio ffwrnais, a dyma'r gwaith a gyflawnai Phil yn ei arddegau.

Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd, ond i greu delwedd wahanol.